"Chwilio am ofalwr y tŷ hwn oeddwn," atebai Nansi'n grynedig.
"Chwilio am y gofalwr mewn lle fel yna?" Codai wyneb bygythiol y lleidr ofn ar Nansi.
"Clywais sŵn rhywun yn dyfod," meddai yn gloff, "ac yr oedd arnaf gymaint o ofn fel yr euthum i'r cwpwrdd i ymguddio.
"Wel, ni fuoch chwi erioed mor anffodus, fy ngeneth i," meddai'r gŵr yn frochus. "Beth glywsoch chwi o'r cwpwrdd yna?" Cyn iddi ateb, ychwanegai'n chwyrn, "Dyma'r tro olaf y rhowch chwi eich bys ym mrwes neb."
Gwyddai Nansi nad bygythio'n ofer oedd yr adyn. Yr oedd ei olwg yn ddigon iddi. Wrth sylweddoli ei pherygl taniodd ei hysbryd i wynebu'r gwaethaf. Ymwrolodd ac atebodd,
"Ni chlywais fawr ddim, ond gwelais ddigon i wybod mai lleidr drwg ydych, ac os caf y cyfle gellwch fentro y bydd yr heddlu yn gwybod yr oll a fedraf ddweud wrthynt."
"Ie, os ceir cyfle, fy ngeneth i, os ceir cyfle," a chwarddodd y lleidr yn frwnt wrtho'i hun. "Efallai y caret yr un fraint â'r gofalwr ffôl?"
"Beth a wnaethoch â'r gofalwr?" gofynnai Nansi yn ddewr.
"Cei wybod rhyw dro, hwyrach." Daliai'r dyn yn dynn yn ei harddyrnau. Er troi a throsi ni allai Nansi ymysgwyd yn rhydd oddi wrtho.
"Waeth i ti heb a gwingo," meddai, ac am foment trodd ei wyneb hagr oddi wrthi at y drws. Gwnaeth Nansi un ymdrech fawr i dorri'n rhydd. Am eiliad llaciodd ei afael a rhuthrodd Nansi am y drws. Ond yr oedd ei hymdrech yn ofer. Gyda gwaedd a naid gafaelodd y dyn ynddi drachefn a daliodd hi'n dynn yn erbyn y mur.
"Felly," ysgyrnygai, "rhoddaf di mewn lle na elli gripio."