beth ofnadwy wedi digwydd iddo, a gallasai Nansi'n hawdd gredu hynny.
Ail ddechreuodd ddyrnu ar y drws. Ceisiodd ei wthio â'i chorff. Yr oedd ei migyrnau yn gwaedu a'i chorff yn gleisiau duon.
Tawelodd am ysbaid eto. Dechreuodd feddwl. Ni fu erioed mor agos i wylo'n ddilywodraeth. "Rhaid imi ddal arnaf fy hun," meddai, "ni wna dagrau fy helpu. Mae rhyw ffordd allan oddi yma a fy ngwaith i yw ei ganfod." Yn raddol yr oedd Nansi yn dyfod ati ei hun. Daeth syniad newydd i'w meddwl. Dechreuodd deimlo â'i dwylo yn y cwpwrdd fel o'r blaen. Tynnodd amryw o ddilladau am ei phen, nes creu llwch annioddefol. Teimlai'n enbyd oddi wrth y gwres yn y cwpwrdd. Yn sydyn, wrth ymysgwyd, trawodd ei phen mewn rhywbeth caled. Teimlodd amdano â'i llaw a thybiodd mai darn o bren fel ffon braff ydoedd yn gafael ynddo. Ar hwn mae'n debyg y crogid y dillad.
"Pe cawn hwn yn rhydd, efallai y medrwn wneud defnydd ohono," meddai Nansi'n obeithiol, "y mae'n teimlo'n gryf a phwrpasol."
Rhoddodd Nansi ei holl bwysau arno, ac wedi ymdrech galed daeth un pen yn rhydd. Gwaith hawdd wedi hynny oedd rhyddhau y pen arall ac yn fuan yr oedd y pastwn yn ei llaw.
Ceisiodd ei ddefnyddio fel trosol, drwy ei wthio rhwng gwaelod y drws a llawr y cwpwrdd. Oherwydd y lle cyfyng cafodd gryn drafferth i gael ei throsol i waelod y cwpwrdd i ddechrau. Gwelodd wrth iddi bwyso â'i thraed ar waelod y drws, y gallai gael trwyn y trosol oddi tano.
"Yn awr amdani," meddai Nansi wrthi ei hun. oedd ei gwroldeb yn cryfhau bob munud, ond teimlai'n rhyfeddol o gysglyd a diymadferth. Yr oedd yn demtasiwn gref iddi gau ei llygaid a chysgu a theimlai ei hun yn llithro'n braf i ryw wlad ddieithr hyfryd. Nid oedd Nansi wedi sylweddoli ei pherygl mwyaf. Nid llwgu