Y testyn y tro hwn oedd "Penau a Gwynebau." Efallai nad allasai gael gafael ar destyn i siarad arno o flaen pobl, yn fwy cyfaddas er cynyrchu hunan-ymholiad yn eu plith, yr hyn sydd yn dra diffygiol yn mhlith gwrandawyr yn gyffredin. Yr oedd adsain yr hen ddarlith boblogaidd yn edliw i adsain yr un newydd hon, yn ymddyddan y bobl ar y diwedd. Teimlwn wrth wrando, fod Thalamus yn ddyn o gyrhaeddiadau cryfion ac ysblenydd, ac nid oeddwn heb dybied y gallasai efe droi ffrwd ei dalentau i weithredu ar bobl er dylanwadu arnynt mewn ystyron mwy budd-fawr.
Cyfrifir Llanelli yn dref hynod grefyddol. Mae yn amheus a oes un dref yn Nghymru mor grefyddol. Yr ydwyf yn dweyd hyn a chymeryd y safonau cyffredin i farnu, sef nifer y capeli, moesau a chymeriad cyffredinol y bobl. Mae gan yr Annibynwyr demlau heirdd ac eang yma, a'r Methodistiaid yn dilyn. Mae y Bedyddwyr ar eu huchelfanau yn Llanelli.
Foreu Sabboth, pregethais yn Calfaria. Eglwys newydd yw hon a hanodd yn ddiweddar o eglwys yr enwog Lleurwg. Mae eglwys ieuanc Calfaria ar y ffordd i lwyddo. Ymddengys fod y gweinidog, Mr. Griffiths, yr iawn ddyn yn yr iawn fan. Sonient am helaethu lled eu pabell, ac estyn cortynau eu preswylfeydd, trwy adeiladu capel newydd. Addolant yn bresenol mewn ystafell eang a fwriedir ei defnyddio yn vestry, wedi gwneyd y capel.
Yn hwyr y Sabboth, pregethwn yn nghapel eang Dr. Rowlands, yr hwn sydd briod â merch y diweddar Barch. Daniel Davies, D. D. (y dyn dall), a'r hwn sydd ewythr i'r adnabyddus a'r clodfawr Barch. H. O. Row-