lands, M. A., Elgin, Ill. Yr oedd y gynulleidfa yn y capel hwn yn aruthrol fawr—y fwyaf y bum yn sefyll o'i blaen yn Nghymru. Teimlwn yn ofnus mewn gwirionedd wrth ddringo grisiau y pwlpud. Yr oedd y dorf fel coedwig dyn aml-gangenog, yn amgau o'm cylch o bob cyfeiriad, a'r gas-lights yn orlachar, fel y teimlwn fy modolaeth dan gryn bwysau wrth anturio llefaru. Wedi yr ymdrech hon, nid oedd sefyll i fyny ac anerch cynulleidfaoedd llai, ar nosweithiau yr wythnos, ond gwaith cymharol ysgafn.
Gweinidog efengyl pur gyflawn yn ddiau yw Dr. Rowlands. Ceidw i fyny urddas y weinidogaeth yn arddull ei bregethu, yn gystal ac yn ei fywyd a'i rodiad cyffredinol. Saif yn mhlith y dosbarth blaenaf yn yr ystyron pwysig hyn. Y mae efe yn teilyngu parch, ac yn ei gael yn gyffredinol.
Nos Lun yr oeddwn yn Seion, capel y Parch. J. R. Morgan, D. D. (Lleurwg). Hysbysid fi fod cynulleidfa fawr ganddo yntau ar y Sabbothau, yn gymaint ag erioed—er cynifer a ymadawsant o'r eglwys i ymffurfio yn eglwysi newyddion yn y dref. Y tro hwn yr oedd. y gynulleidfa yn barchus yr olwg arni, a chymedrol ei maint. Ymddangosai Lleurwg yn gryf, siriol a heinyf, bron fel cynt. Y mae meithder tymor ei weinidogaeth yn Seion, a pharhad ei ddefnyddioldeb a'i boblogrwydd yn dweyd llawer yn ei ffafr. Y mae gan y siriol Lleurwg natur ddynol ragorol. Mae ganddo galon fawr. Teimlir hyny yn ei gymdeithas. Mae ei bresenoldeb fel gwên heulwen. Mae yn caru ei genedl, ac yn neillduol bobl ei ofal. Bydd yr olwg arno ar yr heol yn lloni ysbrydoedd llwfr. Credwn fod yr elfen