Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/106

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

credwyf mai nid anmhosibl gweled i mewn i'r dirgelwch dyddorol hwn. Y mae Mr. Hughes yn wr hollol syml. Cynygiaf y deongliad a ganlyn o'i lwyddiant cyd-bwysedd. Nid oes yn ei wneuthuriad ef gyneddfau cryfion a gweinion wedi eu hieuo yn anghydmarus. Yn y rhan fynychaf, anghydbwysedd cyneddfau sydd yn cloffi pobl, ac yn peri aflwydd a dinystr. Nid ydym yn dweyd fod y cyd-bwysedd hwn a briodolir i Mr. Hughes, yn ei natur heb wybod iddo. Na, credwn yr ymhyfryda efe yn yr ymdeimlad o hono, ac yn ei weithiad allan yn ei fywyd cyhoeddus a chymdeithasol. Saif Mr. Hughes, gan hyny, yn engraifft nodedig o werth cyd bwysedd cyneddfau yn cael eu hymarfer yn briodol. Profir ynddo ef nad yw doniau dysglaer, arabedd, na phereidd-der llais, nac unrhyw gynhyrfus ddoniau yn hanfodol i lwyddiant yn y weinidogaeth. Yn y wedd hon, yn ogystal ac yn ei fuchedd ddifwlch a dianair, y mae efe yn deilwng o efrydiaeth ac efelychiad unrhyw weinidog ieuanc a amcana fod yn ddefnyddiol a llwyddianus.

Aelodau yn eglwys Bethel ydoedd Mr. Thomas Cadwgan Jones, Pittsburgh, Pa., a'i briod. Cyfarfyddais a llaweroedd yn holi yn barchus am danynt. Gelwais yn nhy merch iddynt, a chwaer i Mr. Jones.

Arweiniodd Lleurwg fi i gael golwg ar hen dref Llanelli. Y gwrthddrych hynotaf yn y parth hwnw ydyw hen eglwys y plwyf. Tu fewn i glawdd amddiffynol y fynwent, ymlapia yr hen eglwys rhag dylanwadau gwrthnawsiol oddiallan. Ceidw yn yr agwedd hon er deddf newydd y claddu. Y mae cynlluniad heolydd ac adeiladau yr hen Lanelli wedi gadael mwy