gydymdeimlad wrth roddi rhestr o'r gofyniadau fel hyn er arwyddo fy mod yn cael fy mhoeni yn ddiangenrhaid gan bethau o'r fath; na, dealled mai anfynych y byddai yr ymofynion yn cael eu gwneyd gan yr un personau, ar yr un amser a lle. Yn hytrach yr oeddynt y rhan amlaf yn cael eu rhoddi i mi yn ddiniwaid ac mewn teimladau Cymreig da yma a thraw, ac oni bae fod fy amser mor ryfeddol brin, buaswn yn eu mwynhau yn anghyffredin; ond gan fod y peth gwerthfawr hwnw mor fychan, yr oedd amryw o'r ymofynion yn gorfod bod heb eu hateb; rhaid oedd talfyru yn hyn fel yn mhob peth arall, a threulio yr amser i fanylu mewn rhagbarotoi i fyned am naw mis i Gymru.
Fel blaenffrwyth ein cysur ymweliadol, yr oedd rhagddysgwyliad am gymdeithas cyfeillion ac adnabyddion oeddynt wedi cyd-drefnu â ni i groesi y Werydd yr un pryd ac yn yr un llong. O'r nifer hwn ceid Mr. John Rees, o Swydd Blue Earth, Minnesota, ffermwr cyfrifol a brawd yn y ffydd; y diweddar Barch. W. M. Evans, Freedom, Cattaraugus Co., N. Y., ac eraill. Wythnos cyn adeg cychwyn llonwyd fy nghalon gan bresenoldeb Ꭹ brawd John Rees, a threuliasom rai oriau hamddenol gyda ein gilydd yn Utica yn ddifyr iawn, ac yn benaf wrth ddangos iddo adeiladau a manau o ddyddordeb yn ein dinas glodwiw. Arweiniais ef i gael trem ar gaper newydd hardd yr "Hen Gorph," a chapelau eang y Bedyddwyr Americanaidd. Ac fel llawer eraill o wyr Cymreig calon-gynes ar eu ffordd i Gymru, boddhawyd ef trwy ymweled â swyddfa glodforus y Drych.
Ni allaf ymatal crybwyll yma, rhwng cromfachau, rai