Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/110

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhoddir gair da iddo fel pregethwr galluog ac areithiwr medrus-ddawn. Cryna y parsoniaid pan y byddo efe yn llefaru ar wladyddiaeth. Yr oedd oddi cartref yr wythnos hono, yn berwi y wlad trwy siarad ar faterion etholiadol.

Mae gan y Bedyddwyr eglwys lewyrchus yn y Pwll, rhwng Llanelli a Pembre. Y gweinidog ydyw y Parch. J. Y. Jones, yr hwn fu gynorthwywr i'r Parch. A. J. Parry, yn Abertawe. Saif efe yn uchel fel pregethwr ieuanc. Synwn wrth weled yno gynulleidfa mor fawr ar noswaith yr wythnos.

Deil yr eglwys yn Pembre ei thir yn bur dda ac ystyried amgylchiadau y lle. Y gweinidog yw y Parch. W. E. Watkins.

PENOD XVI.

Pregethwyr a Phregethu.

Dymunwn agoshau at y pwnc hwn gyda gofal a pharch arbenig. Pe ceid fi yn taflu llinyn mesur Seisnig Americanaidd dros wyr pwlpudau Cymru dylid fy ystyried yn angharedig ac annoeth, os nad yn haeddu cerydd. A chaniatau y byddai yn llesol nodi beiau amlwg mewn arddull fflangellog, diau y byddai yn deg i mi wed'yn arfer goruchwyliaeth mwy tyner a chefnogol, wedi i'r ddysgyblaeth chwerw gyntaf gario ei heffaith ddyladwy. Byddai yn resyn gadael y dyoddefydd beius yn ddiymgeledd, heb gyfaddasu cyfferiau meddygol pellach at ei gyflwr gwellhaol. Gan hyny, pe dechreu-