yr annheilwng. Mae y dylanwad yn ymburol. Mae yr Undeb yn casglu o dan ei adenydd, megys yr iar ei chywion, amryw gymdeithasau ieuainc gobeithiol. Un o'r rhai hyn yw cymdeithas ddirwestol. Hon a ymlecha yn yswatiol o dan gysgod ei amddiffyn. Mae y gweinidogion a flaenorant gyda y gymdeithas hon yn rhestru yn mhlith y gweinidogion blaenaf yn y Dywysogaeth. Ac nid yw hyn ond dechreu. Mae yr elfen ddirwestol, o'r ganolfan hon, yn prysur enill tir. Mae llinell wahaniaethol yn ymffurfio. Mae yr Undeb, trwy ei chymdeithas ddirwestol, yn gweithredu yn fendithiol ar gymeriad y weinidogaeth, yn bregethwrol a bugeiliol. Y mae amryw ffyrdd eraill drwy ba rai mae y dylanwad daionus canolog hwn yn cyrhaedd y pwlpud.
Tuedda cyrddau yr Undeb i greu ystyriaeth o gyfrifoldeb gorphwysedig ar weinidogion y gair. Tueddant i eangu syniadau parth elfenau llwyddiant crefydd. Tueddant i greu brwdfrydedd a sel sanctaidd, sydd mor hanfodol i ddylanwad pregethwrol. Pwy bynag, gan hyny, a gymero y drafferth i edrych ar safle pregethwyr a phregethu yn gysylltiedig a'r Undeb, rhaid tynu y casgliad fod iddynt safle pur ffafriol. Mae yn ffaith gysurus fod dosbarth diwygiadol uwchraddol o weinidogion yn lluosogi yn bresenol yn Nghymru. Mae y colegau-drysau i'r weinidogaeth yn cael eu gwylied yn fwy gofalus nag erioed.
Mae tôn ymddyddan gyfrinachol a chymdeithasol y gweinidogion, yn wastad yn bur. Mynych y cyfarfyddwn a brodyr yn y weinidogaeth yn tueddu i siarad mwy am faterion crefyddol na dim arall. Llawer a deimlent ddyddordeb i fy holi am sefyllfa yr eglwysi a chrefydd