Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/115

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

difrifoldeb a chynt. Wrth nodi hyn, cofier, nid ydym yn cyfeirio at unrhyw ysgafnder penodol, ond dweyd yr ydym nad oes yr un ardrem lem-ddifrifol yn ganfyddadwy ag a welodd rhai sydd yn fyw yn arweddu gweinidogaeth y tadau.

Nid yw y pregethu presenol mor gyfeiriadol ag eiddo y tadau. Anelid at gydwybodau gynt, anelir at ddifyru a boddhau yn awr. Amcenid at argyhoeddi gynt, amcenir hefyd at hwyl yn awr. Cyfeirid at nôd gynt, cyfeirir yn fwy gwasgaredig yn awr. Nid yw y pregethu yn tybio cymaint, er efallai yn siarad mwy. Mae yr ymegniad yn llawn cymaint, ond yr effaith yn llai. Mae y synwyrau corphorol yn llawn mor gyffroadol, tra mae rhai o synwyrau yr enaid yn dawel. Arwydda y pethau hyn nad yw y pregethu mor gyfeiriadol ag y bu unwaith.

Nodwn eto wahaniaeth nad yw er daioni. Nid oes yr un brwdfrydedd ag a fu. Ni cheir yr un angerddoldeb. Nid yw y tân yn ffaglu cymaint. Mae y pregethu diweddar yn fwy ofnus na'r hen. Clywid gynt daranu yn nod yn y nefolion yn erbyn drygau ysbrydol, hyd leoedd; prin yn awr y sibrydir gair yn erbyn drygau felly. Mae yr hyfder mawr wedi myned ar ddifancoll. Mae swn awdurdod y comisiwn wedi gostegu, ac yn ei le ceir swn areithyddiaeth ac hyawdledd parablol. Ni adnabyddir i raddau dymunadwy yn yr arddull bresenol, fod yr efengyl yn allu Duw. Nid oes yr un mîn rywfodd ar y weinidogaeth ag a brofwyd. Nid yw yr awelon ychwaith yn chwythu mor gryfion.

A yw pregethu presenol Cymru, tybed, mor wreiddiol ag oedd gynt? Credwn fod sail i amheuaeth. Nid