ydwyf o'r rhif a gredant nad yw pregethwr i ddefnyddio pob help o fewn ei gyrhaedd. Wrth gwrs y mae yn iawn iddo wneyd. Eto, mae yn eithaf posibl fod y shop mor llawn o nwyddau, fel na fydd lle i'r gwerthwr eu trafod yn briodol. Argyhoeddiadau personol y pregethwr sydd yn rhoddi graen ar bethau. Os llywodraethir tafod a meddwl dyn yn ormodol gan eraill, anhawdd cael cysondeb yn ei leferydd. Enaid pregethu ydyw enaid y pregethwr, faint bynag fydd hwnw, ac edrych ar ochr ddynol i'r mater. Tuedda llenyddiaeth estronol orlifol i filwrio yn fawr yn erbyn gwreiddioldeb pregethu. Milwria hefyd yn erbyn gwreiddioldeb arddull Gymreig. Nid oes angen ymhelaethu yma er profi fod llyfrgelloedd pregethwyr Cymru yn dra llawn o'r math hwn o ddefnyddiau darllen ac efrydiaeth. Gormod o waith i unrhyw dalent Gymreig ydyw Cymreigio meddylddrychau ac iaith y fath lenyddiaeth estronol Seisnig, i raddau dyladwy. Mae pregethu Cymraeg mewn caethiwed peryglus yn nghanol y fath elfenau estronol. Tybir gan rai, efallai, oddiwrth y sylwadau hyn, fy mod yn awgrymu diffyg eithafol mewn gwreiddioldeb yn mhregethu presenol Cymru. Dim o'r fath beth. Y cwbl a ddymunwyf ddweyd ar y pen hwn yw, nad oes yr un graddau o wreiddioldeb a chynt. Wrth gwrs, nid ydym i anghofio y ffaith fod temtasiynau llyfrol yr oes hon yn llawer lluosocach nag oedd rhai yr oes o'r blaen. Mae cynyrchion pen-campwyr meddylwyr Seisnig yn anghyffredin doreithiog. Mae perygli bregethwr golli ei hunaniaeth meddyliol pan y mae cymaint o feddyliau yn pwyso eu hunain arno.
Ac nid llenyddiaeth Seisnig yw yr un fwyaf estronol.