Y llenyddiaeth Ellmynaidd sydd fwyaf dinystriol i bregethu gwreiddiol Cymreig. Mae cynyrchion meddylwyr Germanaidd yn dywyllion a dyryslyd i'r Saeson. Ond pan y ceir y cyfryw yn ail law, trwy yr iaith Saesoneg, mewn syniadau Cymraeg, y mae y syniadau a'r damcaniaethau Germanaidd yn dywyllion ac yn ddyeithr yn wir. Os ydym yn gywir yn y syniadau hyn, pa ryfedd fod gwahaniaeth-fod dirywiad yn mhregethu Cymru pan yn gymysgedig a'r fath elfenau estronol-pa ryfedd os yw gwreiddoldeb yn eisiau?
Ond nid ydym eto wedi myned at yr haen isaf a orwedd o dan bregethu Cymru heddyw. Y mae un haen o ddylanwad yn is i lawr na dim a enwyd, ag sydd yn argraffu ei delw yn amlycach ar bregethu na'r un o'r haenau ydynt yn nes i'r arwyneb.
Agoshawn at yr haen neillduol hon trwy ofyn pa agweddiad o'r cymeriad dwyfol a fyfyrir? Y mae prif nodwedd y pregethu yn troi ar y cwestiwn hwn. Ateber pa nodwedd, pa briodoledd neu briodoleddau o'r natur a'r cymeriad dwyfol fydd yn awyrgylch feddyliol y pregethwr, yna hawdd fydd dweyd beth fydd nodwedd ei bregethau. Hawdd canfod fod cyfnewidiad dirfawr wedi cymeryd lle yn yr ystyr hwn yn y weinidogaeth efengylaidd yn Nghymru, er amser y tadau, yn neillduol os eir mor belled ag amser Christmas Evans. Yn eu hamser hwy, yr oedd y priodoleddau o gyfiawnder, toster a phenarglwyddiaeth yn peri daeargrynfäau argyhoeddiadol. Yr oedd y cyfryw elfenau dwyfol, wrth gael eu sylweddoli yn ddyladwy yn eneidiau y pregethwyr, yn ymruo allan yn ofnadwy ddylanwadol yn eu gweinidogaeth. Cyrhaeddai y fath bregethu