Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

engreifftiau eithriadol anhapus o Gymry yn galw heibio y swyddfa hon ar eu hymdaith i Wyllt Walia. O ran eu personau edrychant yn salw ddigon, gyda gwynebau llwydion a gyddfau crebachlyd. Yn mhen ychydig fisoedd galwant eilwaith wrth ddychwelyd, â golwg hollol wahanol arnynt, a'r olwg wywlyd felynddu wedi cilio i roi ffordd i olwg glaer, ruddlawn, ymlonol, nes y mae yn bleser eu gweled. Ond hyn sydd yn rhyfedd, fod y personau hyn, wedi eu hadnewyddu a'u creu o'r newydd felly gan faethriniau Cymru, wrth adrodd eu hanes yno, yn ymroi i fudr-boeri a bwrw llysnafedd am ben Cymru druan, a hyny i'r fath raddau fel na fydd ganddynt un gair da i ddweyd am wlad eu genedigaeth. Prin y buasai effeithiau hollol wahanol gan Gymru ar eu personau meinion yn cyfiawnhau y fath ymddygiad.

Yn mhorthladd Efrog Newydd, Awst 22, 1885, cyfarfyddodd yr holl bersonau oeddynt i wneyd i fyny ein cwmni. Yn gynar yn y dydd yr oedd yr agerddlong y bwriadem ymddiried ein cludiad iddi, y City of Chester, o'r Inman Line, yn dechreu aflonyddu o eisiau cychwyn; ac fel yr oedd yr awr iddi gael ei gollwng yn rhydd yn agoshau, ymgrynai ei bodolaeth, a chwyrnai ei pheirianau, ac felly yn gynyddol nes o'r diwedd yr oedd yn ein byddaru â'i gweryriadau; ond nid oedd lle i achwyn, canys yr oedd ei holl gynhwrf a'i stwr yn trydanu pawb ynddi ac o'i chwmpas ag ysbryd cyffelyb. Mawr oedd y prysurdeb, ac yn neillduol yn mhlith yr ymfudwyr oeddynt heb fod yn hollol barod. Yr oedd ein lletywr gofalus, Mr. Henry Rosser, "St. David House," 507 Canal Street, New