Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/120

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Boddhawyd fi a'i swyn gyntaf ar y brif heol, yn y lle diweddaf y gallesid dysgwyl iddo wneyd ei hun yn hysbys i mi. Canys yn y parthau hyny y mae yr elfenau Seisnig i'w dysgwyl yn eu rhwysg mwyaf. Wedi y profiad cyntaf hwn, dyfal-wyliwn arddangosion cyffelyb fel y symudwn yn mlaen, ac yr ymwelwn â pharthau amgylchynol. Gwnaethum hyn yn benaf er cael prawfion fod yr unrhyw ysbryd Cymreig yn perthyn i'r dref yn gyffredinol. Ofnwn ar y cyntaf rhag y dygwyddasai i'r teimlad hapus droi allan yn ffug, trwy i mi ganfod nad oedd yr ysbrydoliaeth Gymreig neillduol y tybiaswn ei darganfod yn ddim amgen na rhyw fath o anianawd lleol, neu ffrwyth dychymyg ymrwyfus. Ond ni chadwyd fi yn hir yn ngafael yr ofn annymunol hwn. Canfyddwn wrth ymlwybro o honwyf, fod y cyfryw drydan yn mhob man lle yr elwn yn y dref. Wrth fyned i lawr i gyfeiriad y post office, adnabyddwn ei nodau ef. Gwelwn nad oedd dyfodiad i mewn na mynediad allan y llythyr-godau a holl estronol fusnes y byd a'r lle yn ei wyntyllu ymaith. Pan arweinid fi gan gydymaith caredig tua chymydogaeth gorsafau y cledrffyrdd, ceid yr hylif nawseiddiol yn y manau hyny drachefn.

Yn ein cwrs elem ar hyd heol glodfawr y Walter's Road, ac heibio yn arafaidd i'r anedd-dai gorwych a geir o bobtu; yno hefyd yr oedd yr ysbrydiaeth a ddenasai fy serch. Yn uwch i fyny eto, pan y'm caed yn rhodio yn hamddenol yn yr hwyrddydd ar hyd rhodfeydd pleserus, gan syllu ar y dref islaw, a'r cyffiniau morawl, yr oedd y chwa Gymreig a deimlaswn, yn cyfarch fy ngreddf-deimlad. Ac ar y Sabbothau, ynte, yr