oedd presenoldeb yr unrhyw hylif yn ddiamheuol. Tua chapel Bethesda, yr oedd fel pe buasai pob cyneddf a feddwyf yn ei fwynhau. Yn nghymydogaeth yr Albert Hall a'r hen eglwys blwyfol fawr gerllaw, ac wrth fyned ar hyd heol y Bellevue, ac heibio capel Bellevue yr ydoedd bodolaeth yr elfen Gymreig yn dra theimladwy; ond yn y capeli yr ydoedd amlycaf. Yn awr, cawswn fy hun mewn adnabyddiaeth wirioneddol o anianawd ysbryd Abertawe, a'm llwyr waredu oddiwrth halogrwydd ac anghywirdeb fy syniadau Seisnig blaenorol. Gyda fy mod wedi cyrhaedd y raddfa hon yn fy ngwybodaeth o Abertawe, dyma ymofyniad yn cyfodi yn fy meddwl, o ba le y cawsai y dref hon y nodwedd werthfawr hon a berthynai iddi. Cymellai amryw dybiadau eu hunain i mi fel esboniad ar y cywreinbeth. Un dyb yw, mai dylanwad yr elfenau Cymreig cryfion yn y cymydogaethau cylchynol ydoedd achos elfen Gymreig y dref. Tyb arall a darawai hwnw yn ol, yw, fod elfenau Cymreig yn cylchynu trefydd eraill yn gyffelyb, na feddent un nôd arbenig o Gymreigyddiaeth. Gyda hyn cynygia syniad arall ei hun, gan awgrymu mai gwrthdafliad y natur Gymreig ydoedd yn erbyn gorbwysau elfenau Seisnig a fygythiasent y dref ryw dro. Teimlaswn ar y cyntaf fod graddau o gywirdeb yn y dybiaeth olaf; ac eto ni allaswn gael fy hun i edrych ar y posiblrwydd o'r fath wrthsafiad fel digonol achos i nodwedd mor werthfawr. Deallwn hefyd fod yr iaith Saesneg ac arferion Seisnig yn uchel eu safle yn y dref, yr hyn a orbwysai y dybiaeth fod y chwaeth Gymreig wedi buddugoliaethu ar y chwaeth Seisnig. Tybiwn, eto, mai effaith
Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/121
Prawfddarllenwyd y dudalen hon