morwriaeth Gymreig ydyw yn ymdywallt yn barhaus i'r porthladd, gan gludo swynion Cymreig o wahanol barthau o Gymru, a hyny yn raddol wedi sefydlu i fod yn gymeriad i ysbrydiaeth y dref. Nid oeddwn foddlawn ar un o'r tybiadau crybwylledig fel esboniad digonol ar y mater. Yna ymsyniwn, pwy o ddynion mawrion dylanwadol a allasent fod yn cyfaneddu yn Abertawe pan oedd y dref eto ond lle cymarol fychan, ieuanc a dibwys, ac i'r cyfryw roddi nôd arbenig ar nodweddau Cymreig y dref. Chwilio a wnaethum. Methwn daraw ar neb, rywfodd, yn ddigon mawr a dylanwadol. Yr oedd amryw o gewri diweddar yn ymgynyg i'r meddwl-cewri a adawsant eu hol ar Abertawe er daioni; ond er hyny ni allasent hwy fod wrth wraidd y nôd Gymreig hon, am nad oeddynt bresenol yn ddigon boreu. A thra yn ymsynio yn fyfyriol am hyny, dyma y Parch. Joseph Harris (Gomer), yn ei ffurf Gymroaidd, yn dod megys yn sylweddol o'm blaen. Yr oedd ei ymddangosiad mor deimladwy a phe gwelsid cyfaill hoffus yn dyfod yn ddisymwth, a neb yn ei ddysgwyl. Dyma yr esboniad ar y dirgelwch, ebai fy enaid ynwyf. Nawsiai deigryn i'm llygaid pan y presenolodd ef ei hun i'm meddwl, a'm calon a leddfai gan dynerwch parchusol i'w natur Gymreig Gristionogol glodfawr ef. Yn ddibetrus yr wyf yn coleddu y syniad mai yr enwog Gomer a roddodd i Abertawe ei chymeriad a'i hysbryd Cymreig.
Daeth y Parch. Joseph Harris (Gomer) i Abertawe am y tro cyntaf yn y flwyddyn 1796, y lle a fwriadasid iddo gan ragluniaeth Duw i fod yn faes ei lafur ac yn orphwysfan i'w lwch. Gwasanaethodd yr eglwys Fed-