Ac wrth derfynu "Galar Tad ar ol ei Unig Fab," dywedai fel y canlyn:
"Bellach, Ieuan bach, 'rwy'n tewi,
Rhag i'm meithni feichio'r wlad;
Tewi allaf, ond d' anghofio
Llwyr anmhosibl yw i'th dad;
Ti ge'st deimlo eithaf angau,
'Chydig ddyddiau o'm blaen i;
Buan daw y wys i'm cyrchu
Ar dy ol o'r anial du."
"Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Prawf o hyn a gafwyd yn y parch mawr a chyffredinol a dalwyd i goffadwriaeth yr anfarwol "Gomer," gan ddynion o bob cyfenwad crefyddol, ac o bob graddau mewn dysg a dawn a meddianau trwy Gymru a Lloegr.
Tra y cydnabyddir i "Gomer" adael argraff ddofn o ragoriaethau ei natur Gymreig ar holl Gymru, diau yr addefir iddo adael argraff lawn mor ddofn ar dref Abertawe, lle y bu efe yn llafurio yn benodol gyda y fath dderbyniad a pharch. Fy marn bersonol ydyw mai ei ddylanwad daionus a Chymreig ef ar drigolion Abertawe a gyfrif am yr ysbrydiaeth nawsiol Gymreig a gyniwair trwy y dref heddyw.
Bu fy arosiad yn Abertawe dros ddau Sabboth—un Sabboth a dreuliais i wasanaethu eglwys Bethesda, a'r llall eglwys Bellevue. Wrth sangu cynteddau Bethesda, meddienid fi gan deimlad o bwysigrwydd arbenig y lle. Mae yr argraff a geir oddiwrth y diaconiaid a'r blaenoriaid yn tueddu yn yr un ffordd. Teimlwn ddweyd fel Jacob gynt, "Mor ofnadwy yw y lle hwn, nid oes yma onid ty i Dduw, a dyma borth y nefoedd."