Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/125

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae capel Bellevue yn llawnach, ond yn llai capel o lawer. Gwisga yr achos yma olwg lewyrchus anghyffredin o dan weinidogaeth felusaidd a gofalus y Parch John Lewis. Anaml y ceir un gweinidog yn deall ei bobl yn well nag efe. Wrth gyd-gerdded ag ef ar hyd yr heolydd, gwelwn fod ei foes-drem a'i gyfarchiadau amneidiol yn berffeithrwydd bron. Gwnaethai ddefnydd da o'i eiriau. Arweiniodd fi ar ymweliad ag amryw o deuluoedd ei eglwys. Cefais drwy hyn fantais i gael golwg ar sefyllfa amgylchiadol llawer o drigolion Abertawe, ac hefyd i wybod mewn rhan, nodau aelodau yr eglwysi.

Cefais fy moddhau yn fawr yn fy ymweliadau ag Abertawe. Bu derbyniad yr eglwysi yn bob peth allaswn ddymuno; ac ymddygiad caredig unigolion yn fwy na'm dysgwyliad, yn neillduol yr hybarch Enoch Williams, gynt o'r Garn, a gweinidog poblogaidd Bellevue. Ond y brif elfen yn fy moddineb yn Abertawe oedd ei hysbryd Cymreig dihafal.

PENOD XVIII.

Yn Sirhowi a Tredegar.

Y mae tystiolaethu am bersonau a lleoedd, eu bod yn well nag yr ymddangosant, yn ddweyd ffafriol am danynt. Y mae Sirhowi a Tredegar yn allanol yn edrych yn ddirywiol. Gwna ymddangosiad y lleoedd a'r cylchoedd i'r edrychydd ymsynio am sefyllfa wyneb y ddaear