y dyddiau cyntaf ar ol y diluw. Mae y golygfeydd yn cynyrchu prudd-der yn y meddwl. Dygant arnynt arwyddion amser gwell yn y gorphenol. Ac eto, wrth ymdrafod a'r bobl, galw yn eu tai, ac ymddyddan a hwynt, ceid graddau o'r prudd-der yn cilio. Ac wrth fyned i'r capeli ceid pethau yn gwella i raddau helaethach.
Ymwelais a'r eglwys yn Carmel, Sirhowi ddwy waith; y tro cyntaf ar noson o'r wythnos, a'r ail dro ar Ꭹ Sabboth.
Cyfarfyddwn ag amryw a'm holent am eu perthynasau a'u cyfeillion yn ngwlad machlud haul. Enwaf rai o honynt: Mr. Griffiths, diacon, tad y brawd D. D. Griffiths, New Straitsville, O.; Mr. Powell, mab i Thomas Powell, diacon ffyddlon yn amser Cynddelw, a brawd i Thomas Powell, Coalburgh, O. Cyfrifir y mab hwn yn Tredegar, yn gystal a'r mab arall yn Coalburgh, yn ddynion o ddealltwriaeth uwchraddol. Clywais holi parchus am y Parch. John R. Jones, Houtzdale, Pa., ac hefyd am Cadwgan Fardd, Johnstown Pa. Yr oedd amryw yn crybwyll am dano ef gyda pharch mawr. Rhoddes Mr. Samuel Thomas, Tredegar, i mi benill a wnaethai Cynddelw i Cadwgan ar ei fynediad i America. Dyma y penill:
"Wrth groesi 'r cefnfor llydan
O'ı anwyl wlad ei hunan,
Paid for a gwneuthur gwyneb swrth,
Na digio wrth Cadwgan."
Ar y Sabboth bedyddiais ddwy chwaer ieuanc yn y man hwnw lle yr yr arferai Cynddelw weinyddu yr ordinhad. Parai hyn i mi ddyddordeb nid bychan.