Megys yr awgrymais, nid yw yr eglwys na'r gynulleidfa mor fawrion ag y byddent flynyddau yn ol, er hyny mae y naill a'r llall yn dal i fyny yn rhyfeddol o dan yr amgylchiadau.
Lletywn yn nhy y brawd E. Richards, dilledydd, a boreu dydd Llun daeth gyda mi i fynwent Carmel, ac i weled y ty yr arferai Cynddelw fyw ynddo.
Yn y fynwent gwelais feddau rhai o hen ddiaconiaid enwog yr hybarch weinidog. Sefais yn hir wrth fedd y ffyddlon Thomas Powell a'i anwyl briod, Mrs. Susannah Powell. Bedd nodedig arall oedd bedd Mrs. Hannah Ellis, gwraig gyntaf Cynddelw. Y mae'r llinellau canlynol ar ei bedd-faen :
<poem "Er rhoi ei chorph i orphwys Yn ngharchar y ddaear ddwys, Cwyd ei llwch o'r trwch lle trig, Llygradwy'n anllygredig; Yno'i cawn o fewn y cor, Heb len ar wedd ei Blaenor; Diau'n chwaer dan ei choron, Onid hardd yw enaid hon? </poem>
Bu farw Mehefin, 1850, yn 35 mlwydd oed.
Ar fy ymweliad a hen gartref Cynddelw, yr oedd math o brudd-der hiraethlon yn fy meddianu. Aethum i'w hen fyfyrgell. Ceisiwn sylweddoli yr amser gynt pan yn galw heibio, ac yntau, y pregethwr mawr, yn preswylio yno. Ymsyniwn am y cyfnod pan oedd Cynddelw a Chadwgan Fardd yn ymryson prydyddu ar lawer testyn difyrus, a minau yn hoglanc yn Porthmadog, yn dysgwyl yn bryderus bob dechreu mis am y Tyst a'r Greal, er cael rhyw dameidyn o'u gwaith.