mawr yno. Y pymtheg mlynedd hyny o'i oes a'u caffent ef yn yr oedran hwnw pan y mae cyneddfau dynol yn cael eu hystyried yn eu llawn addfedrwydd. Llafuriai hefyd yn mhlith dosbarth o bobl oeddynt yn gallu gwerthfawrogi ei ddoniau. Casglasai o'i amgylch ysbrydoedd cydnawsiol. Lluaws a'i gwrandawai yn pregethu a ddygasai efe i fyny i gyflwr meddyliol o'r un anianawd ag ef ei hun. Dyhidlai ei arabedd yn Eisteddfodau y cylchoedd nes hyfwyno dynion megys a gwin. Daeth melodedd yn ei enw. Rhoddodd Robert Ellis le i Cynddelw.
Yn y tymor hwn cynyddodd ei ffraethineb yn rhaiadr. Yn ychwanegol at ei ddigrifwch a'i or-hoender blaenorol, daeth ffrydiau hynafiaethol, barddonol, a chwedl-hanesiol yn llifeiriol. Daeth ei feddwl fel cronfa fawr (reservoir) o hylifau difyrion Cymreig, a ffraethinebau cymeriadau gwreiddiol yr hen oesau, nes gwneyd ei areithiau a'i ymddyddanion yn swyngyfareddol.
Yr oedd sefyllfa y gweithfeydd ac amgylchiadau y bobl yn y blynyddau hyny yn cyd-daro. Yr oedd masnach ar ei huchelfanau, a chysuron bywyd yn ddi-drai. Poblogaeth fawr y parthau hyny yn cael eu llenwi a lluniaeth ac a llawenydd.
Yn ol deddfau llawysgrifeg, gellir adnabod ei arabedd yn ei lawysgrif, o'r hon y rhoddwn yma engraifft:
Mae ffraethineb yn olion ei ysgrifbin. Ymagwedda y llythrenau yn ddigrifol. Y mae y geiriau yn gwmpeini