York, yn help mawr i'n parti yn y gwaith o ymbarotoi. Ni ddylem anghofio crybwyll fod ein cyfeillion mynwesol y Parchn. Dr. Fred. Evans a John T. Griffiths wedi dod i'r ddinas i ganu yn iach i ni. Ni fu personau yn fwy ffyddlon erioed yn gwasgar eu cysuron i'w ffryndiau ar adeg o'r fath, nag oedd y ddau frawd hyn yr adeg hon.
Pan ar gamu i'r llestr dyma alwad am y tocynau. Chwiliwn am yr eiddof ar unwaith; ond Ow! nid allaswn ddodi fy llaw arnynt! Wel, dyma benbleth; y mae y llong ar gychwyn, yr agerdd-beiriant yn cydddweyd â'r swyddogion, "Brysiwch, brysiwch!" Ond b'le yr oedd y tocynau? Hebddynt, nid oedd caniatad i fyned i'r llong. Chwilio bob llogell, ond nid oeddynt i'w cael-gwên Dr. Evans yn dechreu cilio— minau yn parhau i chwilio am y papyrau. Wel, wel, beth a wnaf?—a yw yr holl barotoi i syrthio yn ofer? Chwysu dybryd! Lle mae y tocynau, bobl bach? Chwilio llogellau eto-chwilio cudd-logell. Diolch! dyma'r papyrau! a dyma ni fel parti yn dringo i'r llong.
Wedi cael anadl ar ol yr helynt blin a nodwyd, a chael gwerthfawr eiriau ymadawol oddiar wefusau ein cyfeillion, dyma y fynydd-long yn ymsymud yn nghyfeiriad môr y Werydd. Hetiau a chadachau yn cwhwfanu yn y llong ac ar y lan-Dr. Fred. Evans yn chwyfio ei gadach gwyn ar flaen-big ei wlawlen; a dyna brif wrthddrych ein dyddordeb, a welsom ddiweddaf yn y pellder ar y lan, fel baner heddwch.
Nid hir y bu ein llong yn symud yn mlaen cyn i long fawr arall, yn rhwym i Lerpwl, gyd-redeg â ni, ac yn