Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/130

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

difyrus. Mae delweddiad gwynebpryd Cynddelw yn nelweddiad ei ysgrifiaeth.

Ar fy ymweliad a Tredegar canfyddwn gryn wahaniaeth yn ymddangosiad y lle er cynt. A chymeryd cyfnewidiadau trwy farwolaethau, ac ysgydwadau masnachol a phethau eraill i ystyriaeth, y mae achos crefydd er hyny wedi dal ei dir cystal ag y gellid yn rhesymol ddysgwyl.

Dywenydd mawr i mi oedd cyfarfod yma a Mr. Richard Bebb. Bu ef fyw flynyddau meithion yn America, a phob amser yn ffyddlon i'w enwad. Tra yn teimlo ei hun yn myned yn hen ac yn unig, penderfynodd ddychwelyd i Gymru a chartrefu gyda merch iddo yn Tredegar. Caffed Richard Bebb hin-dda yn hwyrddydd bywyd. Hen frawd crefyddol a chadarn yn yr ysgrythyrau yw efe-un o hen ddysgyblion ffyddlon Cynddelw.

PENOD XIX.

Cofion at Berthynasau a Chyfeillion

Caredigion lawer yn Nghymru a geisient genyf eu cofio yn garedig at berthynasau a chyfeillion yn America. Minau, fel rheol, a addawswn gydsyrio a'u ceisiadau. Dysgwyliwn wrth addaw, y cawswn gyfleusdra i weled y personau y cofid atynt. Wrth ymweled a gwahanol fanau, ychwanegai rhif y ceisiadau hyn yn ddirfawr. Yn y man dechreuwn sylweddoli mawredd fy nghyfrifoldeb. Ceisiais fod yn fwy gochelgar rhag