Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/131

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amlhau addewidion o'r fath. Modd bynag parhau i ychwanegu yr oedd rhif y ceisiadau cofianol. Wedi glanio yn America dechreuais drosglwyddo y cofion mor fuan ag y gallwn i'r personau priodol, ac mae y gwaith hwn yn myned rhagddo yn gyson, a dysgwyliaf y byddaf o fewn ychydig fisoedd eto wedi cyflawni fy addewidion yn y fusnes gofianol yn bur llwyr oddieithr yn y Talaethau Gorllewinol. Gwelaf, wrth edrych dros fy nydd-lyfr, fod amryw o'r rhai y cofir atynt, yn y Talaethau pell Gorllewinol, y rhai nad allaf ddysgwyl eu gweled yn bersonol, o'r hyn lleiaf yn y dyfodol agos. Er gwneyd y diffyg hwn i fyny, penderfynais roi rhestr yn y llyfr hwn o'r cofion hyny ag y mae eu gwrthddrychau yn y parthau pellenig, gan hyderu y treigla y cofion atynt yn llwyddianus, yn debyg fel y treiglai brysebion o fryn i fryn yn yr hen amseroedd yn Nghymru. Mae yn bosibl y gwna personau a welont y cofion yma hysbysu ffryndiau mwy Gorllewinol am danynt, ac y bydd i'r rhai hyny drachefn hysbysu rhai pellach eilwaith, nes o'r diwedd y cyrhaeddant y person bwriadedig. Ac os dygwydd na chyrhaeddant yn ddiogel mewn rhai engreifftiau, gall y cofion, yn ddiau, wneyd dirfawr les i deimladau cymdeithasol pobl ar eu hymdeithiad heibio iddynt. Gallant fod yn foddion i lareiddio teimladau chwerwon. Gallant ddeffroi rhai difraw a difeddwl am ffryndiau mewn parthau pellenig. Gallant alluogi pobl i weled llinynau mor fendigaid a chryfion sydd yn rhwymo y ddwy wlad wrth eu gilydd. Gallant fod yn esiamplau da i amryw. Rhoddaf yma restr dalfyredig o'r cofion, o'm dydd-lyfr :

Mae William Evans, ger Machynlleth, yn anfon ei