gofion caredig at ei ewythr, Zachariah Davies, brawd ei dad, yn Ashtaroth, Col. Ceisiodd genyf ei hysbysu y bwriada ymfudo yn fuan i America. Cwynai fod amgylchiadau amaethwyr yn gwaethygu yn barhaus yn Nghymru, a bod y rhenti mor uchel fel mai anmhosibl cyfarfod a'r gofynion.
Evan Risiart, Nant-y-brân, Brycheiniog, a hoffus gofia at ei hen gymydog John Hughes, San Francisco, California. Mae Beti Rowland, Cae Isaf, yn cyd-anfon ei chofion.
Ceisiodd Shon Wmffra Dafydd, Tyddyn-y-clawdd, ger Minfro, genyf ei gofio yn y modd mwyaf caredig at David Williams, y saer, Ratcliff, Texas. Dywedai fod ei fab yn llwyddo yn dda fel doctor, a llawenychai yn y dysgwyliad y bydd yn fuan yn un o ddoctoriaid goreu y parthau hyny.
Mari Ifan, Llan-on, a serchus gofia at ei chwaer, a dybia sydd yn byw yn Arkansas.
Henry Jones, Pant-y-goitre, Ceredigion, a enfyn ei gofion mwyaf cynes at John Davies, y blaenor (hen flaenor yn y capel gerllaw), Bath, Dakota.
Richard Jones, Ochr-y-bryn, Pennant, am siarsiodd i gofio yn garedig at ei fab yn Karkeo, Tennessee. Ceisiodd genyf grefu arno ysgrifenu atynt, a dweyd wrtho fod ei fam yn wylo yn hidl yn aml oblegid ei ddifatererwch yn peidio ysgrifenu. Y fath resyn yw fod bechgyn yn anghofio eu rhieni a'u hen gartref. Ysgrifened y bachgen hwn yn fuan, yn ol y cais, ar bob cyfrif.
John Parry, Twyn-yr-odyn, ger Caerdydd, a'm hysbysai fod ganddo fab yn Silver Plume, Col., ac nad yw wedi clywed oddiwrtho er's peth amser, a'u bod fel