teulu yn anesmwyth yn ei gylch. Cofied John am ei rieni.
Mae Ellen Evan (ebe hi gelwch fi Neli Ifan Shon), Pen-y-rhiw, Sir Fon, yn cofio at ei modryb, Gweno Hughes yn Postville, Neb.
Samuel Roberts, Tan-y-grisiau, anfonai ei gofion at ei gefnder, Gabriel Jones, Wyoming, W. Virginia.
John Ellis, ger Ystum-cegid, Eifionydd, a geisiai genyf hysbysu ei frawd-yn-nghyfraith, John Meredydd, a dybia sydd yn byw yn ngymydogaeth Frostburgh, Md., y dysgwylia gael ei wneyd yn Ustus Heddwch yn fuan, yr hyn fydd yn beth newydd yn mhlith yr Ymneilduwyr yn y parth hwnw. Gwyr yr eglwys wladol, ebai, sydd wedi arfer dal yr holl swyddi. Mae Mr. Meredydd yn ddyn cyfrifol iawn, ac aelod dichlyn gyda y Trefnyddion Calfinaidd. Cofia yn garedig at Mr. Meredydd a'i deulu.
Thomas Richards, Llwyn-Dafydd anfona ei gofion caredicaf at yr hen Gymro twym-galon Dafydd Edwards, sydd yn byw yn rhywle yn Kansas (ni chofiais roddi enw y lle yn fy nyddlyfr.) Ceisiai Mr. Richards genyf ei hysbysu fod yr iaith Gymraeg yn dod i fri yn brysur y dyddiau hyn yn Nghymru, a bod eu cynrychiolwyr yn areithio yn Gymraeg yn y Parliament, os bydd galwad.
Cymydog i Mr Richards-Griffith Pugh—a dystiai fod y Gymraeg yn dechreu cael ei hefrydu yn y colegau a'r prif-ysgolion; a bod ambell i ardal yn dechreu defnyddio ei hawl i'w dwyn i arferiad gystadleuol yn yr ysgolion dyddiol. Bydd Dafydd Edwards yn sicr o fod