yn falch clywed newyddion da fel hyn parth yr hen Omeraeg. Y ddau a gofient yn garedig ato.
Mae Gwladys Jones, y Bwlch, yn anfon ei chofion mwyaf cynes at Nansi Tomos, Charlemagne, Ill. Dymunai arnaf ei hysbysu fod ganddi dy newydd hardd yn awr yn lle yr hen dy to gwellt gynt, ond ei bod yn hiraethu am yr hen dy yn barhaus, ac yn ofni na fyddai byth mor ryw ddedwydd yn y ty newydd ag yn yr hen dy.
Sian Owen, y Brithdir a gofia yn garedig at ei nith yn Miltonia, Washington Territory. Perai i mi ei hysbysu, os gwelwn hi, fod Mali Sioned wedi priodi rhyw hen lanc cyfoethog, a'u bod yn byw yn gysurus gerllaw iddynt.
Daniel Hughes, gôf, ger y Pandy, Powys, a gofia yn frwdfrydig at Philip Williams, Juston, W. Virginia. Cefais lawer o hanes yr ardal hono yn y dyddiau gynt, gan Mr. Hughes. Rhoddai air uchel iawn i Philip Williams fel cymydog dyddan a charedig, a dywedai i'r ardal gael colled ddirfawr ar ei ymadawiad i America.
Nathaniel Williams, Tyddyn-dicwm, a gofia yn y modd mwyaf caredig at Richard Ambrose, Aurora, Ill. Adroddai Mr. Williams wrthyf am helynt ddigrif ddygwyddasai yn ddiweddar yn y gymydogaeth rhwng dau ddyn o'r enw Hugh Siams a Dafydd Powell. Dywedai i achos yr helynt ddygwydd adeg "lladd" mawn yn y fawnog gerllaw, trwy i Dafydd syrthio dros ei ben i dwll dwfn a dorasai bachgen Hugh yn y mawndir meddal, pan ydoedd y bobl yn absenol adeg ciniaw. Torasid y dyfndwll, mae yn debyg, ar lwybr Dafydd, a chuddiasid ei arwyneb a thywarchen ysgafn, yn cael ei