Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/136

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweinidogaeth mor hir-barhaol a'r eiddo ef. Cymer ef ran flaenllaw mewn mudiadau cyhoeddus, lleol a phlwyfol. Efe yw cadeirydd Bwrdd Ysgolion y rhanbarth hono. Mae brawd i'r Parch. D. S. Thomas, M. A., Shenandoah, Pa., yn aelod parchus yn eglwys Dr. Williams.

Gweinidog presenol Jerusalem ydyw y Parch. J. R. Evans. Lleinw ei le yn rhagorol. Rhif yr eglwys hon yn 1885 oedd 212. Corphorwyd hi yn 1844. Oddiwrth ddull gwyr y sêt fawr, a'r bobl gyffredin yn gwrandaw, gellid barnu fod yr eglwys hon mewn teimlad crefyddol dymunol. Yr oedd eu hawddgarwch, yn weinidog ac eglwys, yn nodedig.

CAPEL PENUEL, RHYMNI.


Corphorwyd eglwys Penuel yn 1828. Hon ydyw y fam eglwys. Rhif yr eglwys yn 1885, oedd 298. Y gweinidog presenol yw y Parch. G. Griffiths. Mae eg-