lwys Penuel yn enwog er ys dros ddeugain mlynedd. Breintiwyd yr eglwys yma â gweinidogaeth rhai o'r talentau dysgleiriaf a feddai yr enwad am flynyddau, megys yr enwog Iorwerth Glan Aled, y Parch. D. Rhys Jones, Plymouth, Pa., ac eraill. Tybiwn fod effeithiau pregethu uwchraddol yn ganfyddadwy ar gynulleidfa Penuel pan yn ceisio ei hanerch.
Anrhegwyd fi gan Mr. Griffiths, y gweinidog, a photograph cywir o gapel Penuel, a chan y credwyf y bydd yn dda gan laweroedd yn America, a fuont yn aelodau ac yn addoli Duw yn Penuel, gael darlun o'r hen deml enwog, mynais gael cerfiad da o'r photograph, i'w argraffu yma gyda hanes fy ymweliad a'r lle.
Bu fy ymweliad a'r eglwysi yn Rhymni yn adnewyddiad ysbryd i mi, ac y mae adgofion melus a gwerthfawrogol genyf am y tro.
Ychydig filldiroedd yn is i lawr y Cwm y mae pentref New Tredegar. Oddiyno yr ymfudodd i America, y brawd Vaughan Richards, Nanticoke, Pa., a'i deulu, a'r Parch. John Seth Jones, ac y mae iddynt lawer o gyfeillion mynwesol yno yr awrhon.
Yr oeddwn yn awyddus i alw yn Bargoed, a daethai y cyfleustra. Ar fy ffordd oddiwrth orsaf y gledrffordd i lawr y pentref, wedi croesi y bont, gwelwn ddyn a dynes yn nrws ty ar y ddehau i mi a'u llygaid yn gyfeiriedig ataf. Tybiwn oddiwrth eu hedrychiad ymofyngar y dyfalent yn egniol pwy a allasai fy nynsawd fod. Diau y credent, wedi fy agoshad, mai y gwr dyeithr o America, a gyhoeddasid yn y capel y Sabboth, oeddwn. Ymddangosent erbyn hyn yn awyddus i'm hanerch fel y cyfryw, ond yn rhy ochelgar i wneyd hyny. Gan nad