Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/138

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oeddynt hwy yn tori trwodd i fy anerch i, myfi a'u cyferchais hwy, gan ddweyd, "Ie siwr, y gwr dyeithr o America ydwyf, yn dyfod at fy ngyhoeddiad i'r Bargoed. A welwch chwi yn dda fy hysbysu yn mha le yma mae ty Mr. Parish?" "Y mae ei dy ef ychydig i fyny y bryn. A welwch yn dda droi i mewn i'n ty ni yma am enyd?" Cydsyniais yn ddiolchgar. Deallais yn fuan i mi fod yn gywir parth eu dyfaliad am danaf. "Yr oeddym yn tybied, ebe y gwr, mae Giraldus o'r America oeddych. Mae yn dda genym eich gweled. A welwch yn dda aros yma gyda ni i de." A hyny fu eto. Ai tybed fod cymdeithion mwy dyddan na rhai felly i'w cael ar wyneb y ddaear? Am danaf fy hun, gallaf ateb a dweyd, nad oes neb y byddaf yn mwynhau eu cymdeithas a'u caredigrwydd yn fwy nag eiddo y bobl gyffredin, ddiniwaid, di-ddichell grefyddol, ac o'r cyfryw nodweddau y cefais y teulu hwn.

Mae eglwys y Bargoed wedi cael colledion pwysig yn y blynyddau diweddaf trwy farwolaethau ffyddloniaid —Mr. Phillips, Gilfachfargoed, ac eraill. Buasai rhagluniaeth ddwyfol yn garedig neillduol wrth y Parch. J. Parish, y gweinidog, ychydig ddyddiau yn flaenorol, trwy roi iddo ail wraig, yn ymgeledd gymwys iddo ef a'i blant; boneddiges rinweddol a chrefyddol o Sir Fon. Ystyrid Mr. Parish yn dra ffortunus o'i chael, ac ymddangosai yntau ei fod yn credu hyny.

Ychydig bellder o'r Bargoed y mae Cwm-sy'-fuwch Oddiyno yr ymfudodd y brawd ffyddlon Samuel Morgan, Jermyn, Pa., i America. Holid yn barchus iawn am dano ef gan amryw.

Ar fy ymweliad a'r Bargoed, dygwyddodd fod eira