trwchus dros y ddaear. Gwnaeth yr eira dwfn fy nhaith dros y mynydd i Argoed yn dra anfelus. Gyda cryn anhawsder yr ymdeithiwn tua hen eglwys Bedwellty. Gan nad oeddwn yn sicr o'r llwybr, gelwais yn nrws gwesty ger yr eglwys, am gyfarwyddyd. Wrth fod cysgodau yr hwyr yn ymdaenu, y ffordd yn hytrach yn ddyeithr, a'r eira yn drwchus, ymlwybrwn yn ffrystiog. Erbyn cyrhaedd tỷ Mr. J. Jenkins, Argoed, nid oeddwn mewn cyflwr cysurus i fyned i'r pwlpud, Yr oedd yr eira wedi gallu gweithio ei ffordd at y traed. Mynwn beidio rhoi trafferth, ond inynai Mrs. Jenkins i mi wneyd tegwch a'm deudroed trwy offerynoliaeth hosanau sychion. Teimlwn fod cysuron y ty hwn yn ad-daliad da am y drafferth o gyrhaedd iddo.
Mr. Jenkins yw prif noddwr dynol eglwys Argoed. Mae ei grefyddolder a'i amgylchiadau bydol yn ei wneyd yn foneddwr pwysig yn y lle, ac yn lleygwr dylanwadol yn yr enwad. Efe yw Trysorydd Cymdeithas Ddarbodol y Gweinidogion.
Corphorwyd eglwys Argoed yn 1818. Rhif yr eglwys yn 1885 oedd 125. Y gweinidog presenol yw y Parch. E. George.
Mae amryw grefyddwyr da wedi ymfudo o'r Argoed i America. Wele rai o honynt: y Parch. B. E. Jones, Wiconisco, a'i frawd, Lewis Jones, a John R. Jones, Minersville, Pa.; y Parch. William Lawrence, Syracuse, Swydd Meigs, O.; a brodor o Bedwellty, gerllaw, ydyw Edward Saunders, Mason City, W. Virginia.
Pan ddychwelais i Gwm Rhymni, y man cyntaf y gelwais oedd Pengam, lle oddeutu dwy filldir islaw Bargoed. Bu yr eglwys hyd yn gymharol ddiweddar