Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fuan gael y blaen arnom, ond ymgysurem nad ᎩᎳ Ꭹ rhedfa yn eiddo y cyflym, na'r rhyfel yn eiddo y cadarn bob amser. Ac yn wir, yr oeddym wedi ymgadw rhag trefnu croesi mewn llestr gyflym; dymunem yn hytrach gael amser i fwynhau y fordaith.

Cafodd y golygon wleddoedd breision wrth graffu ar brydferthion orielau glanau môr-afon New York ar ein ffordd tua'r môr. Gresyn fyddai cadw y golygon oddiwrth y golygfeydd hyn.

PENOD II.

Y Fordaith a'r Glaniad.

Yr oedd "yn hwyrhau, a'r dydd yn darfod," wrth i ni fyned o olwg tir hawddgarol America. Pruddaidd yw colli golwg ar dir pan byddo cysgodion y nos yn ymledu. Bydd yr olygfa oddiallan yn dwyshau ofnus hiraeth y meddwl. Gwrthweithir y dylanwad nosawl pruddaidd hwn mewn rhan gan sirioldeb y goleuadau glanol. Gwasanaetha y goleudai yn benodol er dyddanwch fforddolion y moroedd. Tranoeth agorodd amrantau y wawr arnom ar ddydd yr Arglwydd. Er siomiant i amryw, ni chaed moddion gras ar Ꭹ Sabboth cyntaf hwn; yr oedd fod cynifer yn gleifion, a'r cadben ei hun heb fod yn iach, yn sefyll ar y ffordd. Modd bynag, wedi hir gythlwng, y Sabboth canlynol caed moddion crefyddol i bawb yn y caban. Darllenai y cadben lithiau Eglwys Loegr o'r Common Prayer; a chwareu teg i'r Common Prayer, yr oedd yn wir flas-