Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/140

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o dan amddiffyn hen fam eglwys Hengoed. Lletywn yma gyda pâr oedranus parchusol, ac aelodau ffyddlawn yn yr eglwys. Yr hen wraig, Mrs. Ann Rees, a ddymunai arnaf eu cofio yn garedig at Mr. John W. Howells, Gilberton, Pa., a'i deulu. Cwynai yr hen wr oblegid llesgedd, peswch, a diffyg anadl.

Brawd nodedig flaenllaw a berthyn i'r frawdoliaeth yn Pengam, ydyw J. L. Meredith. Mwynheais fy ymweliad a Pengam. Yn perthyn i'r adran hon o'r daith, yr oedd fy ymweliad a Hengoed. Er cryn siomedigaeth i mi, methais drefnu i gael cwrdd yn yr hen gapel. Bu yr oedfa yn yr ysgoldy gerllaw Bryn-mynachfferm. Aelodau pwysig yn eglwys Hengoed ydyw brodyr, chwaer, a pherthynasau eraill i'r Parch. Richard Edwards, Pottsville, Pa.

Corphorwyd eglwys Hengoed yn 1650. O dan weinidogaeth yr enwog Barch. John Jenkins, D. D., y daeth eglwys Hengoed yn glodfawr. Mae ei argraff ef ar yr eglwys a'r gymydogaeth yn amlwg iawn hyd heddyw. Un o ddynion mwyaf ei enwad a'i genedl, yn ei ddydd, oedd efe.

Yn nesaf, aethum i Machen. Pregethais yno yn Saesoneg. Seisnigeiddiais fy hun, ac yn neillduol fy nhafod, hyd eithaf fy ngallu am y tro. Teimlwn yn angenrheidiol i wylio yn ofalus ar fy ymadrodd rhag y dygwyddasai i eiriau Cymreig andwyo fy mhregeth Seisonig. Credwyf i mi fod yn llwyddianus yn y wyliadwriaeth orbwysig hono, fel na ddaeth yr un gair Cymraeg o'm genau; ond addefwyf y bu gair Cymraeg neu ddau bron ar fy nhafod. Y fath waith caled