Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/141

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydyw ceisio pregethu Saesoneg o dan y cyfryw ofn—ofn geiriau ei iaith ei hun.

Mae yn Machen weinidog rhagorol-y Parch. John Morgan. Daethai yma yn 1884, o Lanwenarth. Bu tymestl gref yn curo ar yr eglwys yn Machen cyn ei ddyfodiad ef; ond yn awr y mae yn gwisgo agwedd well.

PENOD XXI.

Pregethwr Poblogaidd.

Y pregethwr poblogaidd hwn yw y Parch. E. Herber Evans, gweinidog i'r Annibynwyr yn Nghaernarfon. Pan yn Nghymru ddiweddaf cefais gyfleusdra rhagorol i'w wrando yn pregethu. Yr oedd hyn mewn cyfarfod mawr blynyddol yn Mhwllheli. Yn yr oedfa hono pregethid o'i flaen gan y Parch. Mr. Thomas, Glan-dwr, D. C. Pregethai Mr. Thomas yn rhagorol; ond pan yr esgynodd y gwron o Gaernarfon i'r pwlpud yr oedd y llefaru yn fwy grymus. Er pan y clywswn ef yn pregethu yn Risca, oddeutu ugain mlynedd yn ol, canfyddwn ynddo welliant dirfawr fel llefarwr cyhoeddus. Y pryd hwnw yr oedd llawer o bethau diwerth yn ei bregeth; yn bresenol yr oedd yn fwy sylweddol ac effeithiol. Gwelwn fod yni ac aiddgarwch pregethwrol yn ei lwyr feddianu. Yr oedd yn anesmwyth ac aflonydd gan frwdfrydedd cyn iddo esgyn i'r areithfa. Tybiwn wrth edrych arno yn y wedd hon, y cynhyrfid ei ysbryd eisoes gan ei faterion, ac yr enynai