tân ynddo. Ei destyn oedd 2 Bren. 2: 14. "Pa le y mae Arglwydd Dduw Elias?"
Mae ymddangosiad golygus Mr. Evans yn y pwlpud yn fawr yn ei ffafr. Mae iddo ardremiad awdurdodol. Mae iddo barabliad croew. Ni amcana ddylanwadu â llais. Mae yn siarad yn mlaen gan adael i'r drychfeddyliau ymwneyd â chalonau. Ymafla yn ei waith yn fedrus. Teimlir ar unwaith ei fod yn feistr y gynulleidfa, ac yn mhell o fod yn ddyn cyffredin. Nid yw hwyrfrydig yn dod at ei bwnc, ond ymeifl ynddo yn ddioed ac egniol. Mae swn ysbryd ei fater yn ei leferydd a'i oslef.
Buan ar ol iddo ddechreu, adnabyddwn ynddo amryw ragoriaethau pregethwrol. Yr oedd ei bwnc yn amserol, yn ol fel yr oedd ef yn ei gymwyso. A dyma sydd yn cyfansoddi pregethwr ymarferol. Mae llawer o son yn y dyddiau hyn am yr ymarferol, yn wrthgyferbyniol i'r athrawiaethol. Honir mai y pregethu ymarferol y mae yr oes yn sefyll mewn angen mawr am dano. Credwyf mai angen y bobl sydd i benderfynu pa un ai athrawiaethol ai ymarferol ddylai pregethu fod. Mae yn eithaf posibl i'r hyn a ystyrir yn ymarferol mewn ffordd o ddyledswyddau, fod yn hollol anymarferol lawer tro. Pan y mae ar y bobl eisiau eu goleuo am natur dyledswyddau, ac am gymeriad y bywyd Cristionogol, a phan y byddont yn anwybodus am gyfiawnder, dirwest, a'r farn a fydd, yr athrawiaethol sydd fwyaf ymarferol. Deallwn fod y pregethwr hwn yn dal lamp ddysglaer ei destyn uwchben anwybodaeth y bobl, gan ofyn, "Pa le mae Arglwydd Dduw Elias?" Cael allan y lle yr oedd Efe, oedd y pwnc mawr. Hyny