oedd yr ymarferol pwysicaf iddynt o dan yr amgylchiadau. Yr oedd cyflwr moesau a chrefydd y wlad, ac yn Llundain fawr, fel yr eglurai efe, yn arwyddo fod Arglwydd Dduw Elias wedi myned ar goll. Traethai fod cymeriad y weinidogaeth yn ei haneffeithiolrwydd ar ddynion, yn arwyddo fod y dwyfol yn absenol. O dan y fath amgylchiadau, ac yn ngwyneb cyflwr mor andwyol, ofer pregethu dyledswyddau, na manylu ar rinweddau. Eisiau cyd-ddymuno a'r bardd Cristionogol sydd:
"Bywyd y meirw, tyr'd in plith,
A thrwy dy Ysbryd arnom chwyth;
Anadla'n rymus ar y glyn,
Fel byddo byw yr esgyrn hyn."
Cyfaddasrwydd y bregeth at gyflwr ysbrydol y wlad, oedd yn ei gwneyd yn dra ymarferol. Gair yn ei bryd ydoedd. Yr oedd min ar ei ymadrodd ef. Parod oedd amryw a'i gwrandawai, i gyd-ofyn ag ef, a dweyd, "Pa le y mae Arglwydd Dduw Elias?" Ac O! am ei gael Ef!
Canfyddwn yn ei arddull nodwedd werthfawr arall—agosrwydd at ei bwnc a'i faterion. Nid oedd yn sefyll o bell oddiwrth wrthddrychau ei fyfyrdodau. Nid oedd yn siarad am ryw bethau draw oddiwrtho. Nid oedd ei faterion ac yntau yn ddyeithr i'w gilydd. Nid oedd yn llefaru ar antur. Na, yr oedd y sylweddau y traethai am danynt yn bresenol iddo. Nesâi mor agos atynt nes y teimlai angerdd eu gwres a'u rhin. Yn canlyn yr oedd cynesrwydd. Deuai y pregethwr i'r fath gysylltiad agos ag adnoddau dylanwad ysbrydol nes yr ymlenwai o hono yn bersonol. Cymdeithasai ei