Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/145

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XXII.

O Talybont i Aberystwyth.

Ar fy ffordd i Dalybont, aroswn yn ngorsaf Bowstreet, gan ddysgwyl yn ddyfal i'r gwlaw mawr beidio—a dyna wl——, O na, gwell i ni ymatal, a pheidio cwyno am y gwlaw, oblegid mae digon o hyny yn cael ei wneyd gan ymwelwyr Americanaidd Cymreig eraill. Druan o Gymru —fy anwyl wlad. Drwg genyf fod cynifer o'th blant yn achwyn arnat, yn dy feio am dy wlaw, a'th oerfel, a'th ymborth, a'th arferion, pan y deuant am dro i edrych am danat. Cyfaddefwyf gyda blinder wrthyt, fod llawer o hyn yn cael ei wneyd gan rai a fegaist yn dyner, ac a wesgaist yn hoffus i'th fynwes; a rhaid addef fod hyn yn cael ei wneyd yn aml gan rai ar ol dychwelyd i'r byd Gorllewinol, yn nghlyw estroniaid, y rhai ydynt yn rhy barod eisoes i dy wawdio. O! fy ngwlad, fy hoffus wlad, pell y byddo oddiwrthyf fi y fath ymddygiad ac iaith anwladgarol. Tra y mawrygaf freintiau gwlad estronol, ni chaiff dy glustiau byth glywed fod dy fab hwn yn dweyd yn ddifriol am danat. O! fy ngwlad!

Talybont, yn Sir Aberteifi, sydd yn dra adnabyddus yn hanes y weinidogaeth Fedyddiedig yn Nghymru er haner can' mlynedd neu ychwaneg. Yma, ryw dro, cawn Dr. Cefni Parry hylithrfawr, dduwinyddol ac athronyddol; ac wed'yn y Parch. John Evans, brawd Dr. Fred Evans, ac eraill enwog, fuont yn ffaglu gweinidogaeth yn y lle, nad allaf eu rhestru yma wrth eu