henwau yn gywir. Yr oedd yno amryw yn siarad yn dyner-goffaol am y naill a'r llall a enwyd, ac yn fwy manylaidd, am y Parch. John Evans, fel y mwyaf diweddar yn eu plith. Brodorion o'r lle hwn ydyw y Parchn. D. Rhys Jones, Plymouth, Pa.; H. Gwerfyl James, Spinther James ac E. Morddal Evans. James W. Roberts, Utica, N. Y., sydd frodor o fewn dwy filldir i Dalybont. Parai y pethau hyn, yn gystal a dyddorion presenol yr eglwys, y lle, a'r gymydogaeth, i mi deimlo yn ddeffroawl i bwysigrwydd Talybont. Cefais achos i gydymdeimlo a'r gweinidog haeddbarch presenol, y Parch. M. F. Wynne, yn ei gystudd a'i waeledd. Methai wasanaethu yn y pwlpud gan wendid corphorol yr adeg hono; a phleser i mi oedd croesi dros y bryniau o Benrhyn-coch, er ceisio llenwi ei le am ddau o'r gloch brydnawn Sabboth.
Siarsiodd llaweroedd arnaf yno eu cofio yn garedig at eu hen weinidogion, eu perthynasau, a'u cyfeillion yn America. Tipyn o drafferth a gefais i gael allan yn. mha le yr oedd Penrhyn-coch—ymguddia yn nwyfchwareus rhwng traed a bysedd y bryniau. Galwyd y lle yn Penrhyn-coch, efallai, mewn rhan o herwydd ei berthynas a gorllewinbarth y gymydogaeth.
Hen eglwys sydd yma i'r enwad. Mae golwg henafol arni, ar ei phobl (lawer o honynt), ar y capel, ac ar y fangre. Dechreuwyd yr achos yma gan yr hen frodyr rhagorol Shon Sylvanus a Richard Gardener, ac eraill. Corphorwyd yr eglwys yn 1818. Yn Penrhyn-coch y bedyddiwyd yr enwog Barch. John Jones, Seion, Merthyr. Diau y gwelwyd amser gwell yn Penrhyn-coch. Yr unig eithriad hapus, pe hapus hefyd, o ragorach cyf-