lwr ar bethau yno ydyw Eglwys Loegr. Mae hi yn bur lewyrchus ar hyn o bryd. Y mae amryw o fawrion y gymydogaeth yn ei noddi. Golwg ddyeithr i mi foreu a hwyr y Sabboth, wrth fyned heibio, oedd gweled niferoedd o hen Gymry gwladaidd a diniwaid yn myned i'w phyrth ar ganiad y gloch dafod-leisiog. Dyfalwn a deallwn mai dysgyblion y torthau oeddynt bron yn ddieithriad. Gresyn am y bobl wirion yn cymeryd eu hudo felly.
Bu bron i mi anghofio nodi fod pobl gyfrifol y Post Office, perthynasau agos i Mr. Lewis, Llanbadarn, gerllaw Remsen, yn cofio ato yn garedig, ac yn diolch iddo am anfon y Wawr iddynt o bryd i bryd. Yr hyn sydd wedi llwydo Talybont a Phenrhyn-coch, yn wahanol i'r hyn oeddynt flynyddau yn ol, yn benaf, ydyw ansawdd isel y gweithfeydd mwn; ond dysgwyliant amser gwell yn fuan.
Teimlwn yn Penrhyn-coch nad allaswn alw yn Coginan. Dywed Mr. Lewis, Llanbadarn, mai yn Goginan y bedyddiwyd y Parch. H. W. Jones, Caerfyrddin, ydoedd yn flaenorol yn yr ysgol yn dysgu myned yn offeiriad. Daeth adref am dro, a'r pryd hwnw aeth i wrando y Parch. John Davies, yr hwn oedd bregethwr rhagorol o'r Gogledd, ac yn weinidog yn Goginan a Penrhyn-coch. Wedi yr oedfa hono, nid aeth H. W. Jones byth yn offeiriad, ond daeth yn Fedyddiwr, ac i Goleg Pont-y-pool.
Dydd Llun yr oeddwn yn gadael Penrhyn coch, ac yn myned i Aberystwyth: a dydd Llun yw un diwrnod marchnad y lle olaf. Cyrchai llawer o bobl yno, rhai mewn cerbydau, eraill ar feirch, a llawer ar draed. A