Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/149

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

moes-gyfarchiadau gwaseiddiol iddynt. O, Gymru anwyl, pa bryd y deui yn rhydd oddiwrth dy lyffetheiriau? Pa bryd y caiff dy frodorion diniwaid anadlu yn rhydd yn dy awyrgylch? Pa bryd y cydnabydda y pendefigion trahaus fod gan y brodorion gwerinawl deimladau dynol hefyd, a chystal gwaed yn rhedeg yn eu gwythienau ag sydd yn eu gwythienau hwythau?

Dymunol fyddai gweled Cymry America, yn lle gwarthruddo Cymru, yn efelychu Gwyddelod America mewn gwneyd eu rhan i ryddhau Cymru o'i gorthrwm, ac yna byddai y manylion annymunol y cwynir cymaint o'u herwydd, yn cael eu symud. Wedi cael rhyddid, y pendefigion i lawr, a'r werin-bobl i fyny, ni cheid achosion cwyno oblegid y tywydd na dim arall. Henffych i'r dydd y delo hyny i ben.

Cefais fwynhad nid bychan wrth graffu ar neillduolion di-feddwl-ddrwg y werinos a gyrchent gyda mi tua'r dref i'r farchnad. Rhai a feddent fasgedi, yn cynwys wyau a deiliach, hosanau ac edafedd, a phethau mân eraill, oeddynt, druain, gyda diwydrwydd wedi eu darpar, ac yn awr ar draed yn eu dwyn i'r farchnad. Ambell un yn fwy cefnog, a chanddo drol fechan, ac asyn yn ei thynu-y drol yn llawn o nwyddau amryfath, nid o sidanau, melfedau, llian main a phorphor, ond rholiau o wlaneni, a charpedau rags. Ambell hen wreigan yn mhlith y lluaws geid yn gwau hosan wlan, gan ddysgu diwydrwydd yr oes o'r blaen i'r un falch bresenol. Modryb Shan a modryb Sioned a welwn yn taro ar eu gilydd ac yn cydymddyddan wrth drotian. Ffermwyr o'r dosbarth canol, yn ddau neu dri yn y cwmni, a wnaent eu ffordd yn mlaen, gan siarad yn