Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

us y tro hwn. I chwyddo y mawl, chwareuai boneddiges yn fedrus ar y berdoneg. Ar ddiwedd yr addoliad gwnaed casgliad at drysorfa Cartref Morwyr Methedig yn Lerpwl. Yr oedd ein calon yn dyner ynom yn yr oedfa foreuol hon, a dygai y brawd John Rees dystiolaeth gyffelyb. Profem fod y "newyddion da" trwy gyfrwng y Llyfr Gweddi Cyffredin, fel "dyfroedd oerion i enaid sychedig."

Gan ein bod yn son am y Common Prayer, esgusoder ni am gyfeirio at un peth ynddo y tybiwn y buasai yn dda ei wella. Nid yw enw yr Arlywydd, yn lle y Frenines, yn swnio yn gyson iawn, nac fel yn ffitio yn dda. Nid yw y bwlch a dorodd yr Americaniaid yn muriau y weddi ymerodrol hon wedi ei drwsio yn gelfyddydgar. Nid yw y trwsiad yn gydffurf â'r rhanau amgylchol. Gweddïir ar ran y Frenines am iddi gael oes hirfaith, ac ar iddi wedi hyny gael mynediad helaeth i dragywyddol wynfyd. Ond wrth ddymuno yr un peth i'r Arlywydd, nid yw mor sicr, canys peidia efe yn fuan a bod yn Arlywydd, ac efelly bydd allan o gyrhaedd y gweddïau hyn. Dyma engraifft nad yw dillad Shon Bwl yn ffitio f' Ewythr Sam.

Ar y cyfan, mae mordeithwyr yn dduwiolach ar y môr nag ar y tir. Er hyny rhaid addef fod duwioldeb llawer ar y cefnfor i raddau helaeth dan reolaeth y tywydd, ac am hyny mae yr hin-fesurydd yn ogystal dangoseg o'r naill ag ydyw o'r llall.

Wrth gyfeirio at wrthgiliadau crefyddwyr newyddddyfodol, arferir dweyd am rai, iddynt golli eu crefydd ar y môr; ond nis gallaf gredu fod y dybiaeth yna yn gywir, canys fel rheol cydiant yn gryfach ynddi yn