Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/150

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fforddus am brisiau y gwartheg a'r moch. Ffermwyr o'r dosbarth uchaf yn eu dawns-gerbydau (spring carriages), yn loewach yr olwg arnynt—y fam a'r ferch yn y cerbyd yn ol―y tad a'r mab yn y cerbyd yn mlaen, a'r mab a'r ferch yn ymddangos yn mynwes eu rhiaint, ac yn neillduol y ferch, gan y dysgwyliai brynu yn y dref ddefnydd dilladau erbyn y gwanwyn a'r haf. Y ffermwyr o'r trydydd dosbarth a gynrychiolid yn y drol fawr drystiog, yn yr hon y ceid gwyddau, ieir, a hwyaid, yn nghyda rhai eraill o deulu yr aden. Eraill hefyd, rhy luosog i'w henwi, a welwn yn yr orymdaith hon -oll yn dwyn beichiau bywyd (oddigerth y boneddigion), ac arwyddion o hyny arnynt; a minau o America, yn ddyeithr, heb neb yn fy adnabod.

Dyma fi wedi cyrhaedd Aberystwyth, a hyny yn gynt na fy nysgwyliad. Wedi cael ymborth, a chan nad oedd Mr. Morris, y gweinidog, yn y ty, aethum i weled y dref a'r farchnad. Credwyf y buasai y llinellau hyn yn ddyddorol i'w darllen, pe gallwn adgynyrchu fy gyniadau ar y pryd. Yn wir, yr oeddwn wrth fy modd wrth ymdroi yn mhlith y bobl. Nid y dref oedd yn cael fy sylw penaf, ond y bobl yn prynu ac yn gwerthu. Yr oeddwn bron a llefain (wylo) gan ryw deimlad o anwyldeb lleddf at fy nghenedl fel y cynrychiolid hi yma, a dichon i mi lefain hefyd. Dywedwn wrthyf fy hun, Wel, yr ydych yn bobl nice iawn, rywsut; Gymry anwyl, yr ydych yn hapus eich byd. Yr ydych yn edrych yn fwy cartrefol a theuluaidd na neb a welais erioed. Y mae delw yr hen efengyl arnoch, yn ddiamheuol. Safwn yn awr ac eilwaith i wrandaw ar bartioedd yn bargeinio. Dadleuent yn hir weithiau ar y gwahaniaeth