Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/151

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o ddimai. Wrth bacio pethau i fyny i'r prynwr, yr oeddynt mor ddestlus, ac yn dweyd, "Tanci," mor ddirodres wrth dderbyn yr arian. Nid oedd yn y farchnad hon ddim hen grochfloeddio safnrwth, cras a dideimlad—dim hylldremu-dim twyll-resymu a cham-ddarlunio ; ond ymddangosai pawb yn ddiniwaid, ac heb wybod eu bod hwy felly, ac yn ymddangos felly. Yr oedd pob peth mor lân hefyd, fel yr oedd yr olwg ar y cyfan yn y werthfa yn ddymunol iawn yr olwg arnynt. Gan fel yr oeddwn yn dotio at y bobl, ac at eu nwyddau, a'u dull hwy o werthu a phrynu, yr oeddwn yn meddwl na welswn yn fy mywyd farchnad mor swynol a dymunol yr olwg arni ag oedd hon.

Nos Fawrth, yr oedd y Parch. Mr. Morris wedi trefnu i mi gael oedfa yn ei gapel, er rhoddi (ebe fe) amser i mi orphwyso. Daeth yr adeg, a minau yn pryderu i bregethu mewn man mor nodedig—hen gapel yr enwog, y Parch. Edward Williams, o goffadwriaeth fendigedig. Yr oedd dull hyfwyn, brawdol a charedig Mr. Morris, yn tueddu i ladd llawer o'm hofnau. Daeth cynulleidfa dda yn nghyd, o bobl gyfrifol yr olwg arnynt; yr hen bobl yn dwyn arnynt ddelweddau crefyddol eu hen gyn-weinidog. Cefais fy moddhau yn y gwrandawiad, ac yn ymdyriad amryw o'm cwmpas ar ddiwedd yr oedfa. oedfa. Wedi i'r bobl ymwahanu, treuliais beth amser gyda'r gweinidog i sylwi ar neillduolion hen-ffasiwnol yr addoldy. Aethum i fyny i'r pwlpud (yn y sêt fawr yr oeddwn yn pregethu), a dyna bwlpud uchel. Yn sicr, rhyfeddwn pa fodd y gallai pregethwr ymgadw ynddo rhag pen-syfrdandod. Teimlai yr eglwys wedi cael digon ar yr hen gapel a'r pwlpud yn