Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/155

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ngeiriau pan y dywedwn eu bod yn dwyn nodau o hunan-bwysigrwydd. Y mae yn eithaf posibl, er hyny, nad oedd yr arddangosiad hwnw yn tarddu oddiar ymfawrogiad o honynt eu hunain fel swyddwyr yn y Bwrdd Ysgol, ond yn hytrach, mewn rhan, oddiar eu hymfawrygiad o air da oeddynt wedi ei enill fel y cyfryw; ac mewn rhan hefyd oblegid effaith o bwysigrwydd yr achos arnynt; ac hefyd mewn rhan, efallai oddiar y nawd arbenig a roddasai y Creawdwr iddynt ar gyfer yr alwedigaeth. Ac heblaw hyn, yn gymaint a'u bod hwy yn weinidogion yr efengyl, nid oedd ond rhesymol dysgwyl iddynt arweddu yn uwchraddol.

Achos arall i'r ymdrechfa swyddogol ydyw anghyfartaledd enwadol. Ar wahan oddiwrth yr eglwys wladol, mae y gwahanol enwadau yn neillduol eiddigeddus rhag na byddo un yn cael gwell cynrychiolaeth na'r llall yn y Bwrdd. Pan y dygwydd anghydbwysedd felly, y mae ymdrech neillduol yn mhlith y blaid leiafrifol am gynrychiolaeth i'r llywodraeth. Blaenorir yn yr ymdrechfa gan yr ymgeiswyr am y swyddi. Dwyseiddir ynddynt hwy y teimladau gweithredol. Ynddynt daw y nodau personol yn fwy amlwg nag arferol, o dan ddylanwad y cynhwrf. Yn debyg fel y bydd gwythienau yr y corph yn fwy eglur a llinynog pan y byddo person yn gyffrous. Mae cynhyrfiadau yn ymchwyddo dyn allan, ac yn neillduol ermygau a chyneddfau arbenig, fyddant yn wastad yn gryfion.

Mae yr helynt etholiadol yn frwydr Armagedon weithiau. Amcenir gwneyd ychwaneg na dwyn cydbwysiad, neu gyfartaledd i'r gynrychiolaeth. Mewn rhai engreifftiau amcenir cryfhau adran oedd yn ddigon