Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/156

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cref yn barod. Ar y fath adegau, y mae nerthoedd o natur israddol yn ymffrwydro. Bydd gweiniaid yn yr ymgyrch yn drystfawr.

PENOD XXIV.

Dau Gymeriad Cenedlaethol

Y Parchn. William Rees, D. D. (Gwilym Hiraethog), a Roger Edwards, y Wyddgrug, yn ddiau oeddynt ddau wron cenedlaethol nodedig. Tra yr oedd y ddau yn mhlith gweinidogion blaenaf eu henwad, rhestrent hefyd yn mhlith cymeriadau dysgleiriaf y genedl. Y mae y ddau, er wedi marw, yn llefaru eto. Oblegid y safle oedd ac y sydd iddynt yn mhlith enwogion eu gwlad, ac oblegid fy edmygedd personol, yn neillduol o'r blaenaf, y defnyddiaf y cyfleustra hwn i'w portreadu, trwy eu darluniau a thrwy nodion byrion adgoffaol.

Ganwyd Dr. Rees, Tachwedd, 18, 1802, mewn amaethdy o'r enw Chwibren Isaf, yn mhlwyf Llansannan, Sir Ddinbych. Bu farw Tachwedd 8, 1883, yn Nghaerlleon. Mab ydoedd i Dafydd Rees, o'r lle hwnw; ac enw morwynol ei fam ydoedd Ann Williams, o Gefnfforest. Ei daid ydoedd Henry Rees, gwr genedigol o Llandeilo Fawr, Sir Gaerfyrddin; daeth i Lansannan ar y cyntaf fel exciseman, a phriododd yno Miss Gwen Llwyd, merch ac etifeddes Chwibren Isaf. Yr oedd y Llwydiaid hyn yn deulu henafol a pharchus yn y wlad, ac yn disgyn mewn llinach unionsyth o Hedd Molwyn-