Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/158

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dywedai ei gymydogion fod cystal ganddynt glywed Dafydd Rees yn gweddio a chlywed John Elias yn pregethu. Yr oedd Anne Rees, ei wraig, hefyd, yn ddynes llygad-graff, ddarbodus a synwyrol. O tan aden y rhieni hyn, mewn cwm anghysbell, yn nghanol golygfeydd gwledig amaethyddol, wrth odreu gogleddol mynydd Hiraethog, yn ngolwg dyffryn swynol Aled y magwyd y tywysog hwn yn mhlith enwogion ei genedl.

Mae genyf amryw adgofion o hono ef yn pregethu ac yn darlithio mewn gwahanol fanau yn ystod ugain mlynedd neu ychwaneg. Y tro cyntaf i mi wrando arno yn pregethu ydoedd yn nghapel Mr. Ambrose, Porthmadog. Y pryd hwnw pregethai ar y testyn, "Dywedwch wrth y cyfiawn mai da fydd iddo." Chwiliai am y cyfiawn, ond methai ddyfod o hyd iddo. Aethai i'r deml, ond yr hunan-gyfiawn oedd yno. Gwnai amryw gynygion i gael allan gyfiawn y testyn, ond yn aflwyddianus. O'r diwedd cawsai afael arno yn Dafydd yn cael ei eneinio yn frenin ar Israel. Wedi i Samuel, ar ei ymweliad a thy Jesse, wneyd adolygiad ar bob un o'r meibion, y rhai oeddynt yn saith mewn rhifedi, efe a ddywedodd wrth Jesse, "Ai dyma dy holl blant ?" Yntau a ddywedodd, "Yr ieuengaf sydd eto yn ol, wele y mae efe yn bugeilio. Nid ydych am ei weled ef, mae'n debyg." "O na, byddai yn well i mi gael golwg arno," ebe y prophwyd. Yna erchid i'r forwyn fyned i alw arno. Hithau, yn ufudd i'r gorchymyn, a redai i ben bryn bychan gerllaw, ac a wnelai udgorn o'i dwylaw, ac a lefai yn egniol, gan ddyweyd, "Dio, Dio, tyr'd i'r ty yn y mynyd, mae yma ryw ddyn dyeithr eisio dy weled