nghanol tonau y Werydd nag arferol. Mae yn eithaf posibl y ceir rhai yn dechreu llacio eu gafael ynddi wrth ddod i mewn i dawelwch y porthladd; ac efallai ambell waith pan ddaw y pilot i'r bwrdd. Ond fod neb yn colli ei grefydd ar y môr, prin y credwn hyny. Byddai llawer o'r amser yn cael eu dreulio gan y golygon i helwriaeth llongau. I'r pwrpas hwn aent yn fynych ar hynt yn mysg y tonau. Ceid boddhad nid bychan weithiau wrth graff-sylwi ar longau a welid yn fymrynau symudol yn y pellder aneglur, ond byddai y mwynhad yn fwy wrth weled rhai yn cyflymu heibio yn agos, gan ddweyd mewn iaith fanerawl, "Wele ni.”
Pwy fydd eich cymdeithion sydd fater tra phwysig wrth groesi, ac eto bydd yr hyn fydd eraill i chwi yn ymddibynu bron yn hollol ar beth fyddwch chwi iddynt hwy. Heblaw hyn bydd y môrdeithwyr yn gyffredin yn dyfod yn wrthddrychau o ddyddordeb. Ni fu Mr. Evans na minau yn brin o gysur cymdeithasol. Difyrid ni weithiau wrth sylwi ar gymeriadau diniwed yn mhlith teithwyr y steerage. Gwrthddrych dynol a fu yn destyn ein hefrydiaeth fwy nag unwaith ydoedd gymeriad digrifdrem a welem o draw, druan o hono ! Ymddilladai yn blethawl drwchus, fel ar gyfer ystorm gref. Ei gotiau a fotymasid yn ddigoll hyd yr ên. Fe allai fod yr arferiad o wisgo ei hunan fel hyn ar bob tywydd, yn wers a ddysgasai tymestloedd bywyd iddo. Neu, ynte, fe ddichon fod ofn y môr yn ei flino, ac yntau yn ystyried yn ddoeth iddo i fod yn barod bob amser ar gyfer y gwaethaf.
Mr. Fitzgerald, offeiriad Pabaidd, oedd foneddwr y daethom i adnabyddiaeth agos ag ef. Ymddyddanai â