Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/160

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr awdwr yn isel ei feddwl. Gwelai ddynion annuwiol yn llwyddianus yn y byd, a gwelai ddynion duwiol yn aflwyddianus. Methai weled pa fodd yr oedd crefydd yn talu ei ffordd os felly oedd y canlyniadau. Modd bynag, un diwrnod ymlusgodd y Salmydd i'r cysegr; a dyna lle yr ydoedd yn ddigalon a phruddaidd, a'i ben yn pwyso ar ymyl y sêt. Elai yr offeiriaid yn mlaen a'r gwasanaeth, a gwrandawai yntau, ac yn y man gwelid ei lygaid yn ymloewi heibio ymyl y sêt, ac ymsythai ar ei eisteddle, a dywedai ynddo ei hun, "Y mae ynddi hi rywbeth, er hyny." Daethai yno i olwg byd arall, ac yn y cysegr fe welai megys oddiar ben bryn uchel, gyfandir mawr tragwyddoldeb, ac y byddai i Dduw yno ymddwyn tuag at bawb yn ol eu gweithredoedd. A dyna a sibrydai wrtho ei hun wrth fyned adref, "A minau, nesau at Dduw sydd dda i mi." 1. Mae nesau at Dduw yn waith anhawdd iawn. Mae profiad y gweddiwr yn dwyn tystiolaeth o hyny. Pan y ceisia efe draethu ei neges ger bron Duw, y mae y meddwl yn dianc oddiarno ei hunan, 'ac, o dan angenrheidrwydd i redeg ar ol ei hunan i gael ei hunan yn ol drachefn at Dduw. mae fod y meddwl felly mor wibiog ac afreolus, yn gwneyd nesau at Dduw yn waith tra anhawdd. Heblaw hyn, y mae fod gwrthddrych mawr gweddi yn anweledig, yn ychwanegu at yr anhawsder hwn. Yr ydym, yn ymddangosiadol, mor ddibynol ar y gweledig, ac yn byw yn ei bresenoldeb yn wastadol, ac yn ymdrafod cymaint ag ef, fel y mae yn anhawdd cael gan y meddwl i fyned oddiwrth y gweledig at yr anweledig. Y mae nesau at Dduw yn waith tra anhawdd. 2. Y mae agoshau at Dduw, er hyny, yn bosibl. Wrth wneyd y