rheilffordd gyntaf o Lerpwl i Manchester, yr ydoedd, yn un man, ryw wagle mawr yn gwrthod cymeryd ei lenwi, a buwyd yn cario ac yn cario iddo ef, ond y cwbl a lyncid yn fuan o'r golwg. O'r diwedd penderfynwyd cario darn o fynydd iddo, a thrwy gario o hwnw fe'i llanwyd. O dan yr hen oruchwyliaeth yr oedd rhyw wagle mawr rhyngom ni a'r cysegr sancteiddiolaf yn gwrthod cymeryd ei lenwi. Buwyd yn cario iddo trwy oesau meithion aberthau ac offrymau. Nifer o wyn yn myned tua Jerusalem; i ba le yr ydych yn myned? O! yn myned yn aberthau dros bechodau y dyn yna. Yr oedd angen ysbrydol a moesol y dyn y fath fel ag yr oedd bron a thynu bywyd y Duwdod iddo ei hunan. Yn ngwyneb diffyg y cyfan i lenwi y gwagle, wele Iesu, ei hunan mawr, yn myned i'r gwagle, ac fe'i llanwodd yn gyflawn, ac yn awr mae ffordd newydd a bywjol wedi ei chysegru trwy y llen, sef cnawd ei anwyl Fab. Mae nesau at Dduw yn bosibl. Daeth Iesu unwaith oddiwrth yr anweledig i'r gweledig, ac a "drigodd yn ein plith ni," ac aeth yn ol drachefn at yr anweledig, er gallu denu myfyr dyn gydag ef yn ol at yr anweledig; a'r dysgyblion "oeddynt yn edrych yn ddyfal tua'r nef." 3. Y mae nesau at Dduw yn waith da iawn. Pan y mae dyn yn sychedig, a'i dafod yn ddu yn ei enau gan syched, rhodder iddo ddyferyn o ddwfr oer, ac O! y mae yn dda !—mae yn dda! Felly yr enaid sychedig am Dduw yn nghanol anialwch y byd hwn, ac yn nghanol gau-ffynonau, y mae agoshau at Dduw yn dda iawn iddo.
Ystyrir Gwilym Hiraethog yn un o'r talentau dysgleiriaf a welodd Cymru erioed. Yr oedd ganddo natur