ddynol o'r fath oreu a chyflawnaf. Yn ei gymeriad cyhoeddus ymddangosai fel archoffeiriad mawr, yn meddu cymwysderau meddyliol a chymeriadol a'i galluogai i fyned i mewn i gysegr sancteiddiolaf crefydd a natur. Medrai ddarllen cyfrinion calon dyn. Gwyddai i berffeithrwydd pa fodd yr ymddygai dyn mewn gwahanol amgylchiadau. Gwyddai anianawd y greadigaeth israddol, i lawr oddiwrth yr uchelaf ynddi hyd ddrychfilyn distadlaf y llwch. Gwyddai hefyd ddirgeledigaethau y byd ysbrydol. Yr oedd gartref yn yr Hen Destament. Yr oedd enwau personau a lleoedd yn ngwlad yr addewid gynt yn beroriaeth iddo. Nid gormod dweyd fod rhai o brif ragoriaethau yr enwogion, Christmas Evans, John Elias, Williams o'r Wern, wedi cydgyfarfod ynddo. Meddai ddychymyg darfelyddol byw, doniau areithyddol nerthol, a theimladau greddfol nodedig. Bum yn teimlo wrth ei wrando lawer tro, na wrandawswn neb erioed tebyg iddo. Gwelais bregethwr dewisedig yn gwaseiddio, yn wylaidd ger ei fron. Gwelais gynulleidfaoedd mawrion, deallgar, mewn perlewygedd a llesmair ysbrydol wrth ei wrando. ngrym ei ddylanwad ac ysbrydolrwydd ei araethyddiaeth, ymddangosai fel yn gwlawio hyawdledd dwyfol ar y bobl. Yr oedd ei ddrychfeddyliau a'i draddodiad yn argraffu eu hunain ar y meddwl am byth.
Y Parch. Roger Edwards, D. D., ydoedd un o'r gweinidogion hynaf a mwyaf dylanwadol yn nghyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd. Bu yn pregethu am yr ysbaid maith o bymtheg a deugain o flynyddau. Ganwyd ef yn y Bala, Ionawr 10, 1811. Bu farw Gorphen-