enw, ac i edrych arno fel dyn ysplenydd, ac o nodau meddyliol a chymeriadol uwchraddol. Bu clywed amryw o brif weinidogion y Bedyddwyr droion yn siarad yn uchel am Roger Edwards, y Wyddgrug, yn foddion mewn rhan, i fy nwyn i goleddu syniadau parchusol ac anwyl am dano.
Er mai yn y Bala y ganwyd y dyn rhagorol hwn, yn Dolgellau y dygwyd ef i fyny, gan i'w rieni symud yno i fyw pan nad oedd efe eto ond tair blwydd oed. Credwyf fod Dolgellau yn lle mwy ffafriol i'w ddadblygiad meddyliol nag a fuasai y Bala, oblegid mae y golygfeydd amgylchynol mor ramantus. Ai tybed na fu cyfeiriad gogleddol Dolgellau yn meddu dylanwad ffafriol arno. I'r dehau mae Cader Idris a mynyddoedd uchel eraill yn cysgodi. I'r gogledd-orllewin o'r lle mae mynyddoedd dyrchafedig Sir Gaernarfon, a golygfeydd dwyreiniol swynol ac aruchel i'w canfod. Y môr, yntau a'i rochfawr ru, a raid fod yn cyffwrdd a'i enaid. Yma, gan hyny, rhaid ei fod yn fyfyriwr mawr ar natur. Ac nid oes un astudiaeth ragorach na natur i eangu efrydwr. Yntau, tra yn meddu cyneddfau a greddfau eneidiol cryfion, a wnaethai, yn ddiau, gynydd dirfawr yn mhlith "clogwyni coleg anian.”
Yr oedd iddo ef le mawr yn ei enwad. Edrychid arno ef fel blaenor. Llenwai amryw swyddau a chylchoedd o bwys. Yr oedd yn ysgrifenwr poblogaidd, fel y dengys chwedl y "Tri Brawd," a ymddangosodd yn y Drysorfa flynyddoedd yn ol. Ac y mae amryw emynau tlws a threfnus o'i waith yn y Salmydd Cymreig (o'i gasgliad ei hun), yn gystal ag yn llyfrau emynau y gwahanol enwadau. Ymddangosodd llawer o erthyglau